Cerdd y Mis: ‘A Winter’s Tale’
‘Once when the world turned old
On a star of faith pure as the drifting bread,
As the food and flames of the snow, a man unrolled
The scrolls of fire that burned in his heart and head,’
‘A Winter’s Tale’ yw un o gerddi hirach Dylan, ac mae’n cynnwys 26 o benillion â 5 llinell yr un. Mae yna odl ababa gyson. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn ‘Poetry (Chicago)’ ym mis Gorffennaf 1945, ac yn y pen draw daeth yn rhan o gasgliad barddoniaeth Dylan, Deaths and Entrances, ym 1946.
Mae’n adrodd stori dyn o aeaf y gorffennol sy’n cael ei achub rhag anobaith gan aderyn benywaidd. Ysgrifennwyd y rhan fwyaf o’r gerdd yn y gorffennol, yn enwedig wrth adrodd y stori, ond mae hefyd rai penillion yn y presennol lle mae’r adroddwr yn trafod y stori a’i gosodiad. Mae’r darnau presennol hyn sydd wedi’u gwasgaru drwy’r gerdd yn in hatgoffa o Under Milk Wood lle mae’r adroddwr yn galw ar y gynulleidfa i ‘edrych’ a ‘gwrando’ ar y stori sy’n cael ei hadrodd. Yn Where have the Old Words Got Me?, mae Ralph Maud yn dadlau y dylid darllen ‘A Winter’s Tale’ fel dilyniant i ‘I Make This in Warring Absence’, sef hanes bywgraffiadol symbolaidd Dylan o gweryla gyda’i wraig Caitlin, ac, yn dilyn hyn, gael ei achub ganddi.
Mewn llythyr at Vernon Watkins ar 28 Mawrth 1945, soniodd Dylan am ei amheuaeth am y gerdd, gan ddweud ‘It isn’t really one piece, though, God, I tried to make it one and have been working on it for months.’ Fodd bynnag, roedd yn honni ei fod yn ei hoffi. Yn wir, mae llawer i’w fwynhau am ‘A Winter’s Tale’; brawddegau hir y penillion, ailadrodd seiniau meddal y llythrennau ‘f’ a ‘s’ – ‘the snow blind twilight ferries over the lakes’ a ‘never to flourish in the fields of the white seed’ er enghraifft – mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at gynnwys y darllenydd yn y byd gaeafol hwn. Yn benodol roeddwn wedi mwynhau cyferbyniad y digalondid oeraidd â delweddau tanbaid ‘kindling fight’ yr aderyn benywaidd. Y ffordd orau i fwynhau’r gerdd hon yw trwy ei darllen ar noson oer gyda boncyffion ar y tân a siocled poeth.
Mae ‘A Winter’s Tale’ ar gael i’w darllen yn The Collected Poems a’r Dylan Thomas Omnibus.
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English