Cardiau Post Holiday Memory

Mae ein man dysgu i deuluoedd wedi bod ar agor trwy’r gwyliau ysgol i ymwelwyr allu galw heibio i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau creadigol, sy’n seiliedig ar ddarllediad Dylan Thomas o ‘Holiday Memory’.
Gan ddefnyddio deunyddiau gwahanol a osodwyd ar bob bwrdd, gallai plant a’u teuluoedd greu eu comics eu hunain, ysgrifennu stori am wyliau’r haf neu gerdd am synhwyrau glan y môr, creu llyfrnod neu eu sioe bypedau eu hunain.
Roedd un o’r byrddau mwyaf poblogaidd yn cynnwys deunyddiau i addurno ac ysgrifennu cerdyn post, gyda dyfyniadau o ‘Holiday Memory’ i’w defnyddio fel ysgogiadau ysgrifennu.
Dyma rai o’n hoff gardiau post!




Am fanylion digwyddiadau a gweithdai sydd ar ddod, ewch i dylanthomas.com/cy/digwyddiadau
This post is also available in: English