Bywyd yn Blashford | Hydref 1937-Ebrill 1938
Mae blog diweddaraf Linda yn canolbwyntio ar arhosiad Dylan a Caitlin yn Blashford, Hampshire, yn fuan ar ôl iddynt briodi.
Cyn i Dylan briodi â Caitlin Macnamara ym mis Gorffennaf 1937, nid oedd y naill ohonynt wedi cwrdd â’u darpar rieni yng nghyfraith. Ar ôl darganfod eu cynlluniau i briodi, rhybuddiodd brawd yng nghyfraith Dylan, Haydn Taylor, fam Caitlin yn erbyn caniatáu i’w merch ieuengaf briodi â bardd bohemaidd ifanc a thlawd gydag enw drwg am ymddwyn yn anghyfrifol.
Nid oedd mam yng nghyfraith Dylan, Yvonne, a oedd yn eang ei meddwl (roedd hi ei hun wedi dianc i briodi Francis, bardd a oedd bob amser yn brin o arian), yn gwrthwynebu’r briodas. Fodd bynnag, roedd Dylan yn aml yn teimlo ei bod wedi’i siomi â dewis Caitlin.
Yn dilyn eu mis mêl yng Nghernyw, cyflwynodd Dylan ei wraig newydd i’w rieni yn Abertawe, ac ar ôl hynny symudodd y pâr ifanc i fyw yng nghartref teulu Caitlin yn Blashford, ar ymyl New Forest yn Hampshire am chwe mis. Roedd y New Inn House (a gafodd ei ddymchwel ym 1970 er mwyn adeiladu gwarchodfa natur) yn hen dafarn brysur â sawl erw o dir. Gwahanodd rhieni Caitlin pan roedd hi’n ifanc iawn, ond roedd y teulu eisoes wedi cael ei ddenu gan ‘the allurements of bohemia’ (fel a nododd Paul Ferris, bywgraffydd Dylan), drwy gyfeillgarwch cryf ei thad â’r bardd, Augustus John, a oedd yn byw gerllaw.
Roedd magwraeth y cwpl yn wahanol iawn; cafodd Dylan ei fagu y tu mewn i ffiniau dieffeithiol parchusrwydd Abertawe faestrefol a chafodd ei faldodi i’r eithaf gan ei fam, ond roedd magwraeth digynllun Caitlin, ei brawd John a’i chwiorydd hŷn Nicolette a Brigit, yn eithaf rhydd o ddisgyblaeth ac egwyddorion arweiniol. Byddai mam Dylan, Florence, wedi’i synnu ar y safonau cadw tŷ llac: pentyrrau o filiau a dillad i’w golchi a fyddai’n cael eu gadael i dyfu, a phentyrrau o lyfrau, cylchgronau a phapurau’n gorwedd o gwmpas y lle, gan gynnwys comics ac adolygiadau llenyddol.
Fodd bynnag, nododd Nicolette yn ei hanes bywgraffiadol ‘Two Flamboyant Fathers’, fod gan ei mam ‘sanctuary of tidiness in her special sitting room’. Doedd dim hawl i blant nac anifeiliaid anwes y teulu fynd i mewn i’r ystafell hon, a oedd yn llawn ffuglen – byddai Yvonne yn diflannu yma i ddarllen, gan adael y plant i ddiddanu eu hunain. Efallai nad oedd ei magwraeth dda wedi’i pharatoi ar gyfer y profiad ymarferol of fagu plant a’r diffyg arian a ddeilliodd o hyn.
Roedd Dylan yn cyfeirio at Blashford fel lle hyfryd, ac yn sicr roedd e’n gwerthfawrogi’r ffordd o fyw rhydd a ‘laissez-faire’ (a oedd hefyd yn ddiwylliedig). Dywedodd wrth ei ffrind o Abertawe, Vernon Watkins, a oedd hefyd yn fardd, fod y tŷ yn llawn llyfrau rhyddiaith a’i fod wedi darllen (ymysg eraill), ‘two dozen thrillers, the whole of Jane Austen, a new Wodehouse, some old Powys…There are only about 2000 books left in the house’.
Mae Nicolette yn cofio Dylan yn dyfeisio gemau parlwr, ‘arteithiau’ bechgyn ifanc a oedd yn cynnwys dychmygu (ac actio) bwyta brechdan mêl a llygoden neu eistedd yn noeth mewn bath o lygod gwyn. Nid yw’n syndod bod ganddo wybodaeth arbenigol am gomics, ac roedd wrth ei fodd yn trafod anturiaethau’r cymeriad cartŵn, Billy Bunter.
Pan nad oedd e’n diddanu’r aelwyd, roedd Dylan yn gwerthfawrogi’r tir helaeth o’i gwmpas, a oedd yn heddychlon ac yn annog ei natur artistig. Fel plentyn, byddai Caitlin yn defnyddio cwt ieir pren diddefnydd fel ffau – yma, byddai hi a Brigit yn chwarae gemau yr oeddent wedi’u dyfeisio. Erbyn hyn, roedd yn cael ei ddefnyddio fel tŷ haf dros dro a oedd wedi’i gysgodi gan do haearn rhychog wedi’i orchuddio â rhosod. Mae Nicolette yn cofio Dylan yn mynd i’r tŷ haf ar ddiwrnodau braf yr hydref i ddarllen barddoniaeth yn uchel.
Byddai Dylan yn sarrug os nad oedd yn ysgrifennu, felly cafodd ganiatâd i ddefnyddio ystafell fwyaf crand y New Inn. Roedd y New Inn, hen sied bren, wedi’i haddasu fel lle i gynnal achlysuron arbennig, ac roedd yn edrych allan ar yr ardd gefn. Yn y gaeaf, byddai Dylan yn gwisgo haenau niferus o ddillad i ysgrifennu er mwyn ceisio cadw’n gynnes. Mae Nicolette yn cofio Dylan yn ysgrifennu rhai o’i gerddi yma: ‘(he) scattered the room with scraps of paper that were chucked into the waste-paper basket at the end of the morning. These were discarded lines, in his miniscule, neat handwriting’. Ym mis Tachwedd 1937, anfonodd Dylan ei ddwy gerdd ddiweddaraf, yr oedd wedi’u hysgrifennu yma, sef ‘I make this in a warring absene’ a ‘The Spire Cranes’ at Vernon. Yn 2014, taflwyd goleuni newydd ar ei waith yn ystod yr adeg hon ar ôl darganfod ei lyfr nodiadau o’r cyfnod hwn, a oedd yn cynnwys drafftiau o’i gerddi.
Datblygodd y bardd ifanc drefn ddyddiol newydd; ychydig cyn ganol dydd, byddai’n gorffen ei waith a byddai ef a Caitlin yn mynd i Ringwood gerllaw i gael cwrw yn nhafarn y Royal Oak (sy’n fwyty erbyn hyn). Yna byddent yn dychwelyd gyda llwyth o ddiodydd pefriog a sawl math o losin, gan gynnwys liquorice allsorts a dolly mixtures. Byddent yn eu bwyta yn y gwely wrth ddarllen yn uchel i’w gilydd, cyn dychwelyd i’r dafarn gyda’r hwyr yng nghwmni Brigit, ac weithiau John.
Ar ddiwrnodau braf, byddai’r cwpl yn aml yn mynd ar deithiau beic i New Forest, neu ar deithiau i fannau prydferth lleol, gan gynnwys y tirnod arfordirol nodedig, Durdle Door, yn Dorset. Mewn un ffordd, cawson nhw chwe mis o brofiad diofal a maldodus, yn rhydd o unrhyw ddigwyddiadau a fyddai’n suro eu perthynas yn y pen draw. Mae’n rhoi cipolwg diddorol ar gyfnod pan roedd Dylan yn cyfnerthu ei arferion gwaith gydol oes – roedd ganddo’r rhyddid i ymddwyn fel ei hun heb ymyrraeth ei rieni, hyd yn oed os oedd yn gweld eisiau maldod mamol ei gartref ar adegau.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English