‘Ashes now, under the snow’: ‘Return Journey’ gan Dylan Thomas
‘I seem to remember a chap like you described. There couldn’t be two like him let’s hope.’
Yn narllediad ‘Return Journey’ Dylan Thomas, mae’r adroddwr yn cerdded drwy Abertawe ac yn ceisio dod o hyd i fersiwn iau o’i hun wrth iddo geisio rhoi’r Abertawe yr oedd yn ei hadnabod yn ôl at ei gilydd, sydd bellach wedi’i chwalu gan y Blitz Tair Noson.
Ymosodwyd ar Abertawe rhwng 19 a 21 Chwefror 1921 yn ystod y Blitz Tair Noson; lladdwyd 230 o bobl ac anafwyd 409 o bobl. Dinistriwyd cannoedd o adeiladau, a difrodwyd nifer o adeiladau eraill. Daeth syniad Thomas ar gyfer ‘Return Journey’, a gwblhawyd ac a ddarlledwyd ym 1947, ar ôl iddo weld y difrod drosodd ei hun. Wrth iddo gerdded o gwmpas adfeilion canol y dref yr oedd yn ei adnabod mor dda, gwelodd ei ffrind Bert Trick a dywedodd wrtho, ‘Mae ein Habertawe wedi marw.’
Mae’n sefydlu’r tôn yn y llinell gyntaf: ‘It was a cold white day in High Street, and nothing to stop the wind slicing up from the Docks, for where the squat and tall shops had shielded the town from the sea lay their blitzed flat graves marbled with snow and headstoned with fences.’
Wrth i’r adroddwr gerdded ar hyd llwybr cyfarwydd o’r orsaf drenau i’r dref, mae ei hanes personol wedi’i rwymo’n sownd â’r lleoliad; mae’r cysyniad o hunaniaeth yn dod yn ansicr pan fydd digwyddiad mor drawmatig yn effeithio ar leoliad a’r bobl sydd ynddo. Lleisiau’r bobl sydd wrth wraidd ei daith, wrth iddynt geisio parhau â’u bywydau pob dydd ymysg yr adfeilion. Wrth i’r adroddwr geisio dod o hyd i’w hunan yn y dafarn, gan roi disgrifiad bywiog ohono, ymatebai’r farforwyn, ‘There’s words, what d’you want to find him for. I wouldn’t touch him with a barge pole, would you Mr Griffiths?’
Mae’r dwyster a hiwmor yn y geiriau; mae’r adroddwr yn cofio am ei gyfnod fel gohebydd ifanc trwy eiriau’r bobl sy’n yfed yn y tafarndai yr oedd yn arfer ymweld â nhw, wrth iddynt rannu jôc am ei brofiad, ‘Ever seen Young Thomas covering a soccer match down the Vetch and working it out in tries?’
Wrth iddo barhau i geisio datgelu’r hen fersiwn o’i hunan a oedd yn ‘mucked about chirpy as a sparrow after the sips and titbits and small change of the town’, mae’n teimlo bod ‘lleisiau pedair blynedd ar ddeg yn ôl yn hongian yn dawel yn yr eira a’r adfeilion’ wrth iddo gerdded tuag at y Kardomah. Yma, byddai ef a’i ffrindiau’n hel atgofion: ‘Dan Jones was going to compose the most prodigious symphony, Fred Janes paint the most miraculously meticulous picture, Charlie Fisher catch the poshest trout, Vernon Watkins and Young Thomas write the most boiling poems…’
Ond cafodd caffi’r Kardomah ei fwrw i’r eira, (the voices) ‘lost in the willy nilly flying of the years’, wrth i’r bechgyn ei hun wasgaru.
Wrth i’r adroddwr ein tywys drwy Abertawe a heibio’i hoff leoedd fel plentyn, heibio’r siopau anweledig a thuag at ei hoff leoedd fel plentyn, mae’n cofio’r dyddiau diofal yn yr ysgol, ond cofiai ar yr un pryd na fyddai rhai o’i hen ffrindiau, a ddisgrifir ganddo fel ‘none-too-clean urchin[s] lying his way unsuccessfully out of his homework’, yn dychwelyd o’r rhyfel.
Caiff y bechgyn hyn eu coffáu ar restr gwroniaid yr ysgol; ysgrifennodd Thomas at un o’i hen athrawon yn Ysgol Ramadeg Abertawe i sicrhau bod ganddynt bob enw. Mae hwn yn rhy bwysig i’w ddyfalu.
Daw’r darn ‘Return Journey’, sydd wedi’i ysgrifennu’n wych, yn deimladwy, yn hiraethus a bron yn annioddefol o drist ar adegau, i ben i ffwrdd o adfeilion y dref ym Mharc Cwmdoncyn. Dyma hafan Dylan, lle gall fod yn greadigol, chwarae a chael ei ysbrydoli; fe’i disgrifir ganddo fel ‘byd y tu mewn i fyd tref glan môr’. Ond mae hwn hefyd wedi newid. Mae ceidwad y parc yn cofio’r bachgen ifanc a oedd yn arfer chwarae yno: ‘climb the reservoir railings and pelt the old Swans. Run like a billygoat over the grass you should keep off of.’
Gofynnodd beth ddigwyddodd i’r bachgen hwn. ‘Wedi marw’. meddai ceidwad y parc. ‘Wedi marw … Wedi marw … Wedi marw … Wedi marw … Wedi marw … Wedi marw.’
This post is also available in: English