Arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’
Rydym ar agor ar hyn o bryd rhwng 10am a 4.30pm, o ddydd Mercher i ddydd Sul. Mynediad am ddim.

Agorodd ein harddangosfa Dylan Thomas barhaol, ‘Dwlu ar y Geiriau’, ar 100fed pen-blwydd Dylan, 27 Hydref 2015, o ganlyniad i arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Abertawe.
Archwiliwch yr arddangosfeydd rhyngweithiol, gwrandewch ar y recordiadau ac edrychwch ar y gwrthrychau gwahanol sy’n cael eu harddangos er mwyn dysgu am waith, bywyd, a chyd-destun diwylliannol un o awduron pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Mae’r arddangosfa hon yn addas i’r teulu ac am ddim, ac mae ar agor ddydd Mercher i ddydd Sul.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys y brif ystafell, ardal arddangos dros dro sy’n cynnwys arddangosfeydd sy’n newid, ac ardal ddysgu sydd ar agor i’r cyhoedd pan nad yw’n cael ei defnyddio ar gyfer gweithdai.

Mae llawer i archwilio ar y llinell amser ryngweithiol megis Llwybr y Plant sy’n cynnwys rhai o’r anifeiliaid sy’n ymddangos yng ngwaith Dylan.
Gallwch ddilyn Llwybr y Bobl o gwmpas y llinell amser hefyd a darganfod rhai o’r bobl allweddol ym mywyd Dylan, a’r cyd-destun diwylliannol cyfoethog yr oedd yn byw ac yn gweithio ynddo.

Mae un rhan yng nghanol yr arddangosfa’n canolbwyntio ar Dylan yr awdur ac un arall ar Dylan y perfformiwr.
Ceir gweithgareddau rhyngweithiol, difyr ynghyd â sgriniau cyffwrdd sy’n adrodd stori nodiaduron Dylan, a gallwch archwilio’i gerdd enwog ‘Do not go gentle into that good night’ ac amgylchiadau ei farwolaeth. Gwrandewch ar Dylan ei hun, a’r bobl a oedd yn ei adnabod, trwy’r seinyddion yn y cadeiriau.
Galwch heibio’r arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’!
Dylan Thomas Centre Exhibition – Spherical Image – RICOH THETA

This post is also available in: English