Gweithdy i’r Teulu: Mygydau 3D Anifeiliaid Dylan

Date/Time
28/02/2025
1:00 pm - 4:00 pm
Dydd Gwener 28 Chwefror, 1pm – 4pm
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy creu mygydau anifeiliaid 3D difyr!
Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu mygydau 3D cerfluniol ar thema anifeiliaid sydd wedi’u hysbrydoli gan rai o’r anifeiliaid a’r adar sy’n ymddangos yng ngwaith Dylan Thomas, gan gynnwys cadnoid, tylluanod a theigrod.
Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.
Sylwer bod lle i uchafswm o 35 person mewn gweithdai. Os yw’n brysur pan fyddwch yn cyrraedd, mae gweithgareddau am ddim i’w gwneud yn ein harddangosfa nes bod lle ar gael ar y gweithdy.
Galw heibio, am ddim.
This post is also available in: English