Gweithdy Galw Heibio Tawel i’r Teulu: Addurniadau Clai Bach ar Thema Anifeiliaid Dylan

Date/Time
25/02/2025
2:00 pm - 4:00 pm
25 Chwefror, 2pm – 4pm
Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.
Mae Canolfan Dylan Thomas a WWT (Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir) Llanelli yn cydweithio eto yn ystod hanner tymor!
Crëwch eich addurniad clai bach eich hun wedi’i ysbrydoli gan yr anifeiliaid a’r adar yng ngwaith Dylan Thomas.
Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy.
Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/llanelli/wwt-llanelli-wetland-centre
Cynhelir y sesiwn hon yn WWT Llanelli. Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad. Am ddim i aelodau WWT.
This post is also available in: English