Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Dyddlyfrau Bywyd Gwyllt

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Dyddlyfrau Bywyd Gwyllt

Date/Time
06/08/2024
2:00 pm - 4:00 pm


Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a  bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.

Mae Canolfan Dylan Thomas ac Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli yn dod ynghyd i ddathlu ‘Words for Wetlands’!

Byddwn yn creu dyddlyfrau wedi’u hysbrydoli gan ysgrifennu natur Dylan Thomas gyda phocedi cudd, tudalennau sy’n plygu allan ac amlenni cudd. Bydd digon o le i chi ysgrifennu a thynnu lluniau o’r holl fywyd gwyllt gwych y byddwch yn ei weld yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli.

Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy.

https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/llanelli/wwt-llanelli-wetland-centre Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma:

Cynhelir y sesiwn hon yn WWT Llanelli. Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad. Am ddim i aelodau WWT.

 

This post is also available in: English