Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Cardiau Post a Llythyrau Creadigol ‘Holiday Memory’

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Cardiau Post a Llythyrau Creadigol ‘Holiday Memory’

Date/Time
23/08/2024
10:00 am - 12:00 pm


Dydd Gwener 23 Awst, 10.00 – 12.00

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a  bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.

Mae un o’n gweithdai mwyaf poblogaidd yn dychwelyd ar gyfer yr haf. Ymunwch â ni i greu darn o waith celf i’w anfon at rywun arbennig! Bydd amrywiaeth o dechnegau a deunyddiau artistig creadigol i chi eu harchwilio, a bydd ein tîm creadigol wrth law i helpu gyda syniadau ac i roi ysbrydoliaeth.

Mae’r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 4+ oed, mae croeso i blant iau ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad i gwblhau’r gweithgaredd.

Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre

This post is also available in: English