Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Date/Time
07/08/2024
10:00 am - 4:00 pm


Dydd Mercher 7 August, 10am – 4pm

Mae thema eleni, ‘Chwarae am y Nesaf Peth i Ddim’ yn canolbwyntio ar yr anturiaethau chwarae rhad neu am ddim y gall plant eu mwynhau gartref, mewn lleoliadau ac yn ein cymunedau.

Yng Nghanolfan Dylan Thomas rydym yn dwlu ar chwarae creadigol, felly mae ein gweithgaredd ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn canolbwyntio ar bersonoliaeth hwyl Dylan a’i gerdd, ‘The Hunchback in the Park’, lle mae’n ysgrifennu am y basn dŵr lle’r oedd yn hwylio’i long.

Yn chwilio am amser tawel oddi wrth brysurdeb y prif ddigwyddiad diwrnod chwarae? Mae arddangosfa ryngweithiol am ddim Canolfan Dylan Thomas, ‘Dwlu ar y Geiriau’ ar agor rhwng 10am a 4.30pm ac mae’n addas i deuluoedd.

Rhwng 10am a 12pm bydd ein man dysgu hygyrch yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau synhwyraidd.

Yna rhwng 1pm a 4pm, ymunwch â ni am weithgareddau ‘Holiday Memory’ hunanarweinedig.

Mae holl staff yr arddangosfa wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac addas i deuluoedd, a byddent wrth eu boddau yn eich croesawu i’n harddangosfa. Beth am gasglu pecyn chwarae creadigol am ddim o’n desg flaen? Mae’r pecyn yn cynnwys taflenni sy’n seiliedig ar thema a gweithgareddau i chi eu gwneud gartref.

Am ddim.

 

Ar-lein

Os na allwch ymuno â ni’n bersonol ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, gallwch greu eich Cwch Dyfyniadau eich hun gartref! Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch: Creu eich Cwch Dyfyniadau eich hun – DylanThomas.com Mae hefyd gennym amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim i’r teulu i chi eu mwynhau yma: www.dylanthomas.com/cy/gweithgareddau-a-lawrlwythiadau/

This post is also available in: English