Croeso i’n Man Dysgu!
Ydych chi wedi ymweld â’n Man Dysgu? Mae ein man dysgu am ddim i deuluoedd yn llawn gweithgareddau hunanarweiniedig a ysbrydolwyd gan Dylan Thomas, ysgrifennu creadigol, a chasgliadau ein hamgueddfeydd.
Mae ein tîm yn brofiadol mewn datblygu a dylunio gweithgareddau hygyrch i blant a phobl ifanc. Mae’r gweithgareddau’n amrywio’n rheolaidd ac maent yn cynnwys barddoniaeth fagnetig, ciwbiau stori, man synhwyraidd dros dro, gweithgareddau ysgrifennu creadigol, teganau synhwyraidd, pethau i’w creu, gemau geiriau, cornel ddarllen gyda llyfrau a chomics, gwisgoedd a phypedau.
Mae gennym hefyd dîm o wirfoddolwyr gwych, ymroddedig sy’n gweithio er mwyn creu adnoddau hygyrch ar gyfer y man, gan gynnwys pypedau bysedd cyffyrddol, ciwbiau adrodd straeon anferth, a gwisgoedd gwisg ffansi sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Dyma’r hyn y mae teuluoedd yn ei ddweud amdano:
‘Amazing activity room with things of all ages to do’
‘Very relaxed, informative, creative, interactive, toddler & baby friendly & lots of fun 😀’
Rachel, Jon, Griff and Gwen
‘The play room was really fun’
Ar y llawr gwaelod, drwy ein harddangosfa am ddim, mae’r Man Dysgu ar agor yn rheolaidd; ewch i Digwyddiadau – DylanThomas.com neu ffoniwch y ganolfan ar 01792 463980 (dydd Mercher i ddydd Sul) i gael gwybodaeth am ddyddiau ac amserau agor.
Ac os na allwch fynd yno’n bersonol, mae gennym lawer o syniadau am weithgareddau am ddim ar-lein: www.dylanthomas.com/cy/gweithgareddau-a-lawrlwythiadau/.
This post is also available in: English