Ralph Ellison yn Abertawe
Mae Ralph Ellison (1913-1994), yr awdur, y beirniad a’r ysgolhaig sy’n Americanwr Affricanaidd, yn adnabyddus am ei nofel glodwiw, Invisible Man, a’i straeon byrion. Bu’n gwasanaethu fel morwr masnachol ac ail gogydd a phobydd rhwng 1943 a 1945, gan gyfrannu at ymdrech y rhyfel heb fod yn rhan o’r fyddin Americanaidd wahanedig. O ganlyniad i’w leoliad, daeth i Gaerdydd, y Barri ac Abertawe, a dyma ble y lleolir ei stori, ‘In a Strange Country’. Ysgrifennodd ddwy stori arall a leolwyd yng Nghymru, ond ni chyhoeddwyd y rhain. Mae’r straeon yn canolbwyntio ar themâu hunaniaeth ac ymberthyn, ac mae’r cyferbyniad rhwng y croeso a gafwyd gan brif gymeriadau’r straeon yng Nghymru a’u triniaeth gartref yn yr UDA.
Yn ei gyflwyniad ar gyfer yr argraffiad i ddathlu deng mlynedd ar hugain ers cyhoeddi ‘Invisible Man’, ysgrifennodd Ellison am ‘In a Strange Country’ a’i themâu fel a ganlyn: ‘Roeddwn i wedi cyhoeddi stori arall lle bu’n rhaid i forwr Affro-Americanaidd, ar lan yn Abertawe, de Cymru, fynd i’r afael ag agweddau ‘Americanaidd’ trafferthus ei hunaniaeth ar ôl i Americanwyr gwyn roi llygad du iddo yn ystod blacowt yn ystod y rhyfel ar stryd yn Abertawe o’r enw Straight… Ond yma daeth y pwysau o hunan-graffu gan grŵp o ddynion o Gymru a oedd wedi’i achub a’i synnu drwy ei gyfarch fel ‘Ianc Du’, a’i wahodd i glwb preifat, ac yna canwyd Anthem Genedlaethol America fel clod iddo.’
Cyhoeddir ‘In a Strange Country’ fel rhan o Flying Home and Other Stories; cedwir ‘A Storm of Blizzard Proportions’ a ‘The Red Cross at Morriston, South Wales’ ymhlith papurau Ellison yn Llyfrgell y Gyngres. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfnod Ellison yng Nghymru yn Black Skin, Blue Books gan Daniel Williams (UWP, 2012).
This post is also available in: English