Cyflwyno’n gwaith gydag Your Voice Advocacy
Yn y blog hwn hoffem eich cyflwyno i’r bartneriaeth wych sydd gennym gydag Your Voice Advocacy (YVA). Mae YVA yn cynnal ei grŵp eiriolaeth o Ganolfan Dylan Thomas. Mae’n grŵp a gynhelir gan ac ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, ac maent yn gweithio i eirioli drostyn eu hunain ac eraill i greu newid cadarnhaol yn ein cymuned gan gynnwys creu newid cadarnhaol yng Nghanolfan Dylan Thomas ei hun! Yn ogystal â hyn, mae’r grŵp yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau creadigol ac mae’n gweithio ar hyn o bryd gyda ni i greu arddangosfa wedi’i churadu ar y cyd.
Daeth y bartneriaeth i fodolaeth pan ddaeth y grŵp (a oedd yn gweithredu fel Pobl yn Gyntaf Abertawe ar y pryd) i Ganolfan Dylan Thomas ar ôl colli eu canolfan yn ddiweddar. Roeddent yn chwilio am ystafell i’w llogi er mwyn cynnal eu grŵp eiriolaeth wythnosol. Gan nad ydym yn llogi’n man dysgu’n aml gan ei fod yn cael ei ddefnyddio bron drwy’r amser ar gyfer ein rhaglenni ymgysylltu, penderfynom fynd ati i ddatrys y broblem mewn ffordd a fyddai’n fanteisiol iddyn nhw ac i ni mewn ffyrdd gwahanol. Byddem ni’n darparu canolfan lle gallai’r grŵp gynnal ei weithgarwch ac yn gyfnewid, byddem yn gallu defnyddio’u gwybodaeth am eiriolaeth, anableddau dysgu a chydgynhyrchu a’u harbenigedd ohonynt. Ac felly, ffurfiwyd gwahanol ffordd o weithio gyda’n gilydd!
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r grŵp wedi gweithio gyda ni i greu adnoddau Hawdd eu Darllen, ein helpu i wella’n hygyrchedd, treialu gweithdai newydd a gwella sut caiff pobl ag anableddau eu cynrychioli yn ein deunyddiau marchnata a’n gwefan.
Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r grŵp eiriolaeth wedi ehangu i gynnwys aelodau o bob rhan o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.Ac ers mis Ebrill, mae’r grŵp wedi bod yn cynnal sesiynau digidol hybrid a phersonol i ganiatáu i hyd yn oed mwy o bobl gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth go iawn i’n hamgueddfa a’n canolfan lenyddol. Yn y misoedd i ddod, byddwn yn rhannu mwy o’r syniadau a’r prosiectau y mae Your Voice Advocacy yn eu datblygu gyda ni. Yn y cyfamser, beth am ddilyn @YVAdvocacy a @CDTAbertawe i ddarllen cerdd wythnosol y grŵp, sy’n cael ei chreu gyda barddoniaeth fagnetig ryngweithiol yn ein harddangosfa?
This post is also available in: English