Trefn Ysgrifennu Dylan Thomas – Rhan Dau

Trefn Ysgrifennu Dylan Thomas – Rhan Dau

Treuliodd Katie wythnos yn ail-greu trefn ysgrifennu Dylan. Dyma’r ail ran o’i myfyrdodau ar hyn, sy’n canolbwyntio ar sut roedd yn treulio’r prynhawn a’r nos.

‘once he was in an environment where he could work, Dylan was extremely disciplined, writing to a strict routine’ – Caitlin: Life with Dylan Thomas – Caitlin Thomas a George Tremlett.

Roeddwn wedi penderfynu treulio wythnos yn ail-greu trefn Dylan. Roedd y boreau a dreuliais yn darllen ac yn dal i fyny â ffrindiau wedi mynd yn dda ac roeddwn i wedi’u mwynhau’n fawr. Byddai’r prynhawniau’n cael eu hymroi i ysgrifennu go iawn. Pan oedd yn byw yn Nhalacharn, ysgrifennai Dylan rhwng 2pm a 7pm. Dewisais weithio o un tan chwech, o gofio na fyddai gen i un o brydau cawl drwgenwog Caitlin yn aros amdanaf yn barod erbyn i mi orffen y dasg.

Y prynhawniau

about fourteen o’clock I might really get up and say something brilliant’ – Llythyr at Pamela Hansford Johnson, 2 Mai 1934.

Un o’r pethau cyntaf a sylwais am drefn ysgrifennu Dylan oedd ei angen am fod ar ei ben ei hun. Yn ôl Caitlin, yn Caitlin: Life with Dylan Thomas ‘he was always at his best when alone with his own resources.’ Roedd angen llonyddwch ac ymwahaniad â bywyd dyddiol. Yn South Leigh, yn ôl Paul Ferris yn Dylan Thomas The Biography, darparodd Margaret Taylor garafán i’r Tomasiaid a osodwyd yn yr ardd i Dylan wneud ei waith ynddo. Pan oedd yng Nghei Newydd, yn ôl Caitlin, rhentodd Dylan ystafell gerllaw i wneud ei waith. Yn Nhalacharn, roedd gan Dylan y sied ysgrifennu lle byddai’n cau’r drws ar bawb a phopeth, a siarsiwyd y plant i beidio â tharfu arno. Ceisiais ail-greu ei amgylchedd drwy ysgrifennu yn fy ystafell fyw a chadw fy ffôn mewn ystafell ar wahân fel na fydda’i tynnu fy sylw.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, fe’i cefais yn anodd iawn dal at yr unigedd gorfodol. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mor ddibynnol oeddwn i ar fy ffôn nes i fi ei roi o’r neilltu. Doedd e’ ddim yn helpu ‘chwaith nad oedd y toreth o syniadau a oedd gen i’n awyddus i gael eu troi’n eiriau. Roeddwn i’n teipio brawddeg ar ôl brawddeg ac yn eu dileu’n syth. Gwyddwn o’i lythyrau fod Dylan weithiau’n ysgrifennu dwy linell o farddoniaeth mewn awr, ond roedd hyn yn fawr o gysur. Fe’m cefais fy hun yn gwylio’r cloc yn aml! Erbyn dydd Gwener roeddwn yn teimlo’n eitha’ digalon a chan nad oeddwn yn edrych ymlaen at y prynhawn roedd un o linellau Dylan yn fy meddwl ‘On no work of words for three lean months’ (Yn addas, dechreuwyd y gerdd am golli’r awen ym mis Chwefror 1933 ond ni chafodd ei gorffen tan fis Medi 1938). Roedd y gerdd yn dal i chwarae yn fy mhen wrth i mi agor y gliniadur o’m hanfodd, gan feddwl tybed beth gallwn i ei ysgrifennu. Ac yna fe drawodd e’ fi, beth am ysgrifennu stori fer am gymeriad sy’n dioddef o golli awen, ond gyda thro annisgwyl (dwi’n dwlu ar dro annisgwyl). Dilynodd y cynsail yn gyflym ar ôl hynny a threuliais brynhawn pleserus yn ychwanegu at y drafft cyntaf. Am y tro cyntaf yn ystod yr wythnos, roeddwn i’n gwylio’r cloc gan ddymuno iddo arafu fel y gallwn barhau i weithio.

Y nosweithiau

Yn y nosweithiau yn Nhalacharn ar ôl iddo orffen ysgrifennu a chael ei ginio, byddai Dylan yn cael bath – byddai ganddo losin a winwns picl wrth ei ymyl, byddai’n gorwedd nôl yn y dŵr ac yn adrodd barddoniaeth. Roedd hyn yn ymddangos yn hen arfer. Yn ôl y mis Tachwedd 1933 roedd wedi ysgrifennu at Pamela Hansford Johnson: ‘I often think that baths were built especially for drowsy poets to lie in and there intone aloud amid the steam and boiling ripples.’ Ar ôl ei fath, byddai’n mynd i’r dafarn. Pan oedd yn iau ac yn aelod o’r Little Theatre, byddai’n treulio’i nosweithiau’n teithio i’r Mwmbwls ac yn mynychu ymarferion. Ambell waith byddai’n ysgrifennu yn y nosweithiau, er, yn ôl Constantine Fitzgibbon ynThe Life of Dylan Thomas, roedd hyn yn rhywbeth a wnâi pan oedd yn iau yn hytrach nag yn y blynyddoedd diweddarach. Dewisais ysgrifennu yn y nosweithiau er i fi adael i fi fy hun gael cwrw dathliadol ar y nos Wener ar ôl i fi orffen drafft cyntaf fy stori.

Casgliad

Roedd trefn Dylan yn ddwys iawn, doedd dim rhan o’r diwrnod yn rhydd o eiriau, boed hynny wrth gasglu syniadau, ysgrifennu ymadroddion neu adrodd gweithiau. Roedd yn well gan Dylan fynd ati i ysgrifennu yn y prynhawniau. Roedd hyn ychydig bach yn anfanteisiol i fi wrth geisio ail-greu ei drefn gan mai fy nghyfnod mwyaf cynhyrchiol yw naill ai peth cyntaf yn y bore neu’r peth olaf yn y nos. Fodd bynnag, mi wnes i ddyfalbarhau. Gwelais y profiad yn un gwerthfawr, er gwaethaf ambell rwystredigaeth, a theimlais fwy o empathi tuag at Dylan yr ysgrifennwr. Teimlais hefyd fod fy sefyllfa’n un ffodus – roeddwn i’n ysgrifennu er pleser yn unig, ac os na fyddai’r geiriau’n dod, roedd hynny’n rhwystredig ond dim byd yn fwy na hynny. I Dylan, roedd ysgrifennu’n fywoliaeth iddo, ac mae’n rhaid bod y pwysau i gynhyrchu wedi bod yn ddwys. Ym 1938 ysgrifennodd at Henry Treece: ‘A poem, obviously, cannot be begun with the strength and singlemindedness it demands and deserves unless there is enough money behind it to assure its completion’. Pwysau gwirfoddol oedd fy mhwysau i ond er hynny roedden nhw’n dal i dynnu fy sylw o’r gwaith dan sylw. Ar ddiwedd yr wythnos, teimlais gryn edmygedd tuag at ymroddiad Dylan a’r drefn hunanosodedig. Yn y dyfodol, byddaf yn bendant yn darllen yn fwy eang ac yn gwneud yn fawr o’r cyfleoedd i ddatblygu fy ysgrifennu.

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English