Dilyn trefn ysgrifennu Dylan: Rhan 1
Mae Katie, ysgrifennwr preswyl Canolfan Dylan Thomas, yn dod o hyd i ffordd arbennig o ymroddedig i ymchwilio i drefn ysgrifennu Dylan.
‘We are both slaves to habit’ ysgrifennodd Dylan at Pamela Hansford Johnson yn gynnar ym mis Ionawr 1934. Fel yr oedd, roedd arferion a threfn ysgrifennu Dylan ym 1934 yn debyg iawn i’r drefn a fabwysiadodd dros y blynyddoedd dilynol. Yn wir, mae’n ymddangos mai’r blynyddoedd pan oedd yn fwyaf cynhyrchiol oedd y rheini pan allai gadw fwyaf at y drefn honno. Dwi’n ysgrifennu yn fy amser sbâr, nid cerddi ond dramâu, monologau a straeon byrion. Fel arfer rwy’n ysgrifennu ar oriau ar hap yn y nos neu ar benwythnosau wrth i mi osgoi gwneud gwaith y tŷ. Ond beth y gallwn i ei gyflawni gydag amserlen fwy llym? Yn fwy penodol, sut byddwn i’n dod ymlaen pe bawn i’n cydymffurfio â threfn Dylan? Penderfynais gymryd wythnos o wyliau o’r gwaith er mwyn darganfod hyn…
Y drefn
Mewn llythyr at Pamela Johnson yn gynnar ym mis Ionawr 1934, mae Dylan yn ysgrifennu am ei amserlen ddyddiol. Mae Caitlin, yn Caitlin: Life with Dylan Thomas yn disgrifio sut roedd Dylan yn gweithio yng Nghei Newydd ac yn Nhalacharn. Roedd y drefn yr oeddwn i wedi penderfynu ymroi iddi’n gyfuniad o’r ddau ddisgrifiad hyn. Dyma’r drefn: 10-12.30 darllen, 12.30-1.00 cinio, 1.00- 6.00 ysgrifennu. Pan oedd yn iau, byddai Dylan weithiau’n parhau i ysgrifennu gyda’r hwyr ac felly penderfynais y byddai hyn yn opsiwn ychwanegol.
Y boreau
‘At half past nine there is a slight stirring in the Thomas body’ (Llythyr at Pamela Hansford Johnson, Ionawr 1934)
Roedd Dylan yn ddarllenwr awchus. Yn ei lythyr at Pamela Hansford Johnson, esboniodd y byddai’n dechrau ei ddiwrnod drwy ddarllen y papur boreol ac yna byddai’n darllen unrhyw beth oedd yn agos, cerddi, rhyddiaith a dramâu. Pan oedd yn Nhalacharn, byddai’n darllen ac yna’n mynd i ymweld â’i rieni, gan gwblhau croesair The Times gyda’i dad. Yn fyr, roedd darllen yn rhan gynhenid o’r diwrnod gwaith. I Dylan, roedd llyfrau’n ysbrydoledig. Yn Dylan Remembered Volume One mae Bert Trick yn cofio am Dylan yn darllen llyfr o chwedlau canoloesol Eidalaidd. Dywedodd fod y gerdd ddilynol ‘When, like a running grave’ wedi’i hysbrydoli gan un o’r chwedlau ynddo. Yn Dylan Remembered Volume Two, mae Vernon Watkins yn cofio bod Dylan wedi darganfod ‘a germ of a poem in an extremely bad thriller’.Mewn llythyr at Henry Treece ym mis Mawrth 1938, dywedodd Dylan fod nifer da o’i ddelweddau wedi dod o’r sinema, y gramoffon a’r papur newydd.
Gan ddilyn trefn Dylan, ond heb gael neb i weini brecwast i mi yn fy ngwely, fe wnes i’n siŵr bod gen i lyfr erbyn deg o’r gloch yn y bore. Gan wybod bod gan Dylan hoffter o nofelau cyffrous a ditectif, treuliais fy moreau’n darllen y rhain a darllen y newyddion diweddaraf ar-lein.
Tua hanner dydd, byddai Dylan yn mynd i’r dafarn (The Uplands Hotel yn Abertawe a Brown’s yn Nhalacharn) lle byddai’n cael peint neu ddau ac yn gwrando ar y clecs diweddaraf. Wnes i ddim cael peint ond, ar y pwynt hwn, byddwn yn darllen unrhyw negeseuon oddi wrth fy ffrindiau ac yn sgrolio’n gyflym drwy fy nghyfryngau cymdeithasol.
Byddai Dylan yn dychwelyd adref am ginio, a byddai’n parhau i ddarllen dros yr amser hwnnw. Arsylwodd Caitlin y byddai’n bwyta mewn ystafell ar wahân iddi hi a’i phlant ac yn darllen ‘novels, poems, comics, even the back of sauce bottles’. Darllenais innau hefyd drwy gydol fy amser cinio.
Ym 1951, roedd myfyriwr a oedd yn ysgrifennu traethawd ar gerddi Dylan, wedi ysgrifennu ato gan ofyn cwestiynau iddo am ei waith Cyhoeddwyd atebion Dylan yn ddiweddarach yn yTexas Quarterly, gaeaf 1961, dan y teitl ‘Dylan Thomas’s Poetic Manifesto’. Ynddo, dywed Dylan: ‘My first, and greatest, liberty was that of being able to read everything and anything I cared to’. I mi roedd dodi amser o’r neilltu i ddarllen bob bore yn dipyn o agoriad llygad. Yn llawer rhy aml, dwi’n gweld fy mod yn perswadio fy hun i beidio â darllen cymaint, gan deimlo y dylwn fod yn rhoi fy amser rhydd i ysgrifennu yn lle. Mae darllen yn teimlo bron fel oediad. Er, ar adegau, mae’n gallu bod, yn bendant (dywedodd Caitlin y byddai’n symud nofelau ditectif Dylan o’r sied ysgrifennu fel na fyddent yn tynnu ei sylw pan oedd yn ysgrifennu). Mae’n ymddangos ei fod hefyd yn rhan hanfodol o’r broses ysgrifennu. Roedd darllen mor eang ag yr oedd Dylan yn ei helpu i wahaniaethu rhwng ysgrifennu da a gwael, ac yn ei helpu i ddyheu am y cyntaf ac osgoi maglau’r ail. Ers cwblhau fy mhrosiect ysgrifennu diwethaf, sylweddolais a bod yn onest nad oedd gen i syniadau ar gyfer rhywbeth newydd. Fodd bynnag, ar ôl wythnos o ddarllen bob bore, teimlais mewn mwy o gysylltiad â’r broses greadigol ac roedd fy meddwl yn ymdrin â syniadau ar gyfer monolog, stori fer a drama un act. Y cwestiwn oedd, sut byddai’r syniadau hyn yn cael eu troi’n ysgrifennu? Byddwn yn darganfod hyn wrth i mi ddilyn trefn Dylan ar gyfer ysgrifennu yn y prynhawn.
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English