Florence Thomas: Rhan 9
‘Sally, I’m off to America. I hope you’ll look after my mother until I come back.’ – Sally Brace yn cofio geiriau Dylan iddi cyn iddo adael ym mis Hydref 1953, a ddyfynwyd yn Dylan Remembered Volume Two.
Yn haf 1953, teithiodd y ffotograffydd Rollie McKenna a threfnydd taith Dylan o UDA, a’r ysgrifennwr John Malcom Brinnin i Dalacharn i ymweld â Dylan. Gwahoddwyd Rollie gan Florence i aros gyda hi yn y Pelican. Yn ei llyfr, Portrait of Dylan, mae Rollie yn disgrifio’r tŷ fel un bach a thaclus ac roedd y parlwr, lle’r oedd llyfrau Dylan a DJ yn ystafell a oedd bron yn aerlgos. Un dydd Sul, aeth hi a Brinnin â Florence a Dylan mewn car wedi’i rentu i Fern Hill lle bu chwaer a brawd yng nghyfraith Florence, Ann a Jim, yn byw. Er bod y ffyrdd yn bennaf heb eu marcio, arsylwodd Rollie fod Florence yn dangos y ffordd iddynt fel pe bai drwy ddewiniaeth. Ar ôl hynny aethon nhw i Gapel Newydd, lle’r oedd y cwpwl wedi’u claddu. Dywed McKenna fod Florence bron yn ei dagrau wrth iddynt sefyll wrth ymyl y beddau. Oddi yno, aethon nhw i ymweld â rhai o berthnasau ffermio Florence, ac fe’u cyfarchwyd gan gefndryd hen ac ifanc. Un o’r perthnasau y daethon nhw ar ei draws oedd ‘Old Tom’, y cyfeiriodd McKenna ato fel un o frodyr Florence. Nid wyf wedi gallu canfod ai perthynas go iawn neu hen ffrind i’r teulu oedd y gŵr hwn. Yn ôl achres y teulu a ddogfennwyd yn llyfr Andrew Lycett, Dylan Thomas A New Life, bu farw brawd Florence sef Thomas ym 1938. Cyfeiriodd McKenna ato fel dyn a fu’n weddw ers deugain mlynedd, rhywbeth nad yw’n cyd-fynd ag amgylchiadau brawd Florence oedd yn fyw sef Bob. Ysgrifennodd McKenna y byddai Florence yn ymweld â’r gŵr bonheddig hwn unwaith y flwyddyn i wneud ei lanhau.
Gyda threigl y flwyddyn, cafwyd pryderon cynyddol am iechyd Dylan. Mae Paul Ferris, yn Dylan Thomas The Biography, yn dyfynnu bod Florence wedi dweud bod Dylan mor lluddedig na allai siarad wrth iddo gerdded o’r Tŷ Cychod i’r Pelican am ei fod yn dioddef mor wael gyda’i frest. Er hynny, aeth Dylan i America eto ym mis Hydref 1953. Teithiodd Caitlin gydag e’ mor bell â Llundain. Y noson cyn iddynt adael, aethon nhw i’r sinema yng Nghaerfyrddin. Honnodd Florence fod Dylan wedi llewygu yn ystod y ffilm, ond gwadwyd hyn gan Dr David Hughes, a oedd yn eistedd y tu ôl i’r Tomasiaid. Dywedodd fod Caitlin wedi gofyn iddo archwilio Dylan, a oedd wedi bod yn dioddef o bennau tost, a chytunodd i wneud hyn ar ddiwedd y ffilm. Fodd bynnag, gadawodd Dylan cyn i’r ffilm orffen, ac ni chafwyd archwiliad. Fore trannoeth, dywedodd Florence fod Dylan wedi dychwelyd deirgwaith i’w chusanu i ddweud ffarwel. Credai, yn ôl Ferris, ei fod wedi cael rhagargoel o’i farwolaeth.
Bu farw Dylan yn Efrog Newydd ar 9 Tachwedd. Diolch i gronfa apêl, dychwelwyd ei gorff, wedi’i hebrwng gan Caitlin, i Gymru ac fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys St Martin’s yn Nhalacharn ar 24 Tachwedd. Cyn ei gladdu, daethpwyd â’i arch i’r Pelican gan nad oedd modd mynd i mewn i’r Tŷ Cychod oherwydd ei holl risiau a’r mynedfeydd cul. Daeth ymwelwyr i weld yr arch agored, lle gorweddai Dylan mewn dull angladdol Americanaidd. Roedd y dull hwn o gyflwyno’r corff, un anghonfensiynol yng Nghymru, wedi brawychu llawer ond yn ôl Andrew Lycett yn Dylan Thomas A New Life, tawelodd Florence feddyliau pawb gan eu hannog i edrych arno gyda’r geiriau ‘But he’s nice.’ Disgrifiwyd hi gan Caitlin yn Caitlin: Life with Dylan Thomas fel ‘croesawus iawn’ i’r rheini a ddaeth yno, ac ar ddiwrnod yr angladd, ymddangosai’n eithaf didaro. Dywedodd ymhellach fod Florence wedi derbyn y cyfan yn ddigyffro, ac nad oedd erioed wedi’i gweld yn gollwng yr un deigryn, er gwaethaf ei hymlyniad wrth Dylan.
Bydd y blog olaf yn y gyfres hon yn edrych ar flynyddoedd olaf Florence.
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English