Dylan Thomas, Elaine Kidwell (Griffiths gynt) ac Amgueddfa Abertawe: Rhan 1
Wrth i ni nodi 80 mlynedd ers y Blitz Tair Noson yn Abertawe a dathlu Mis Hanes Menywod, mae Linda’n edrych yn ôl dros fywyd Elaine Kidwell (Griffiths gynt), warden cyrchoedd awyr benywaidd ieuengaf Abertawe.
‘Mr Thomas, Mr Thomas, mae angen i ni gau nawr.’
Mae’n oddeutu 6pm, a chnociodd Elaine Griffiths, llyfrgellydd cynorthwyol ifanc a bechan Amgueddfa Abertawe (Sefydliad Brenhinol De Cymru ar y pryd) yn ysgafn ar ddrws yr ystafell gotiau a’i agor yn araf. Dihunodd Dylan Thomas (dyn eithaf anniben a oedd yn eistedd yn swp mewn cadair fawr hen ffasiwn) a rhoi trefn ar ei ddillad.
‘Dewch Mr Thomas, bydd tram yn cyrraedd cyn hir’ meddai Elaine wrtho’n bendant.
‘Ydych chi’n cyfarfod â rhywun, Miss Griffiths?’ gofynnodd Dylan.
‘Ydw, mae gen i gyfarfod y Geidiaid yn y Santes Fair, a dwi’n mynd i fod yn hwyr!’ atebodd (er ei bod yn gwybod ei fod yn gofyn a oedd ganddi gariad).
Ymddiheurodd y bardd ifanc a thalentog, a oedd wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth: ‘O, rwy’n flin iawn, Miss Griffiths.’
Mewn nifer o gyfweliadau gydag Elaine (yr oedd ei theulu’n ei galw’n ‘Nin’) dros y blynyddoedd (yn bennaf mewn perthynas â’i rôl fel warden cyrchoedd awyr benywaidd ieuengaf Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond yn fwy diweddar mewn perthynas â Dylan gyda mi; *gweler y ffynonellau isod), pwysleisiodd ei fod bob tro’n gwrtais ac yn garedig:
‘Dylan was always very respectful and careful about speaking to young ladies; he treated me like a sister,’ meddai wrthyf.
Cofiodd Elaine fod y staff yn adnabod Dylan yn dda, a byddant yn ei gyfarch trwy ddweud “Hello boy”, er roedd gan y prif lyfrgellydd, Mr Young, agwedd wahanol,
‘If that Dylan Thomas comes in just ignore him. He’s quite harmless’ meddai.
Fodd bynnag, roedd Elaine yn cofio bod Dylan weithiau’n cael paned gyda nhw, gan ddweud ‘ (he) would sometimes have a cup of tea with us before disappearing off to the cloakroom for his nap, although he also occasionally used to fall asleep in the reading library’, ac yn dweud wrthi ‘I want to be where the action is’.
Yn ystod un o’u sgyrsiau byr, dangosodd Dylan ei ochr athronyddol i Elaine, a ddywedodd wrthyf fod Dylan wedi datgan ‘Everyone has a future and a past, and also a secret past – which is ambition.’ (Roedd ‘gorffennol cudd’ Dylan yn amlwg o oedran ifanc iawn; roedd ei awydd i lwyddo a derbyn clod weithiau’n hollysol.)
Daeth Elaine yn aelod o staff y llyfrgell ym 1938, lle roedd yn ennill deg swllt yr wythnos (pumdeg ceiniog mewn arian degol), ac ystyriwyd hynny fel cyflog da ar gyfer merch ifanc ar y pryd. Roedd adeilad trawiadol ei lle gwaith, a adeiladwyd ym 1841 ar gyfer Sefydliad Brenhinol De Cymru (cymdeithas ddysgedig a diwylliannol) o fewn pellter cerdded byr o’i chartref, a oedd gyferbyn â siop bapur a thrin gwallt gyfunol ei rhieni, a adeiladwyd o fewn bwâu cerrig y rheilffordd ar Barêd y Cei, (a adwaenir fel Beaufort Arches). Roedd hi’n gyfarwydd â’r amgueddfa ers iddi fod yn saith oed, am fod ei thad yn mynd â hi yno pan roedd yn benthyca llyfrau. (Nid oedd angen bod yn aelod o’r Sefydliad i fenthyca llyfrau; dim ond ceiniog oedd angen ei thalu wrth y fynedfa.)
‘When I went to work there I thought I’d died and gone to heaven!’ cofiodd Elaine. Roedd hi’n dwlu ar y naws arbennig (a thawel) yn yr adeilad, a oedd yn gyferbyniad llwyr i’r ardal brysur fasnachol a diwydiannol o’i gwmpas. (Ar y pryd, roedd trên nwyddau’n arfer mynd yn agos at fynedfa’r amgueddfa wrth iddo deithio i’r dociau cyfagos – ardal ddrwg-enwog a pheryglus a oedd yn llawn tafarndai yr oedd morwyr a phuteiniaid yn mynd iddynt.)
Nid oedd ffôn byth yn tarfu ar yr awyrgylch chwaethus, gan fod Mr Young wedi mynegi ei farn yn glir: ‘Ni allwch gael ffôn mewn llyfrgell!’. Erbyn iddo gael ei orchymyn i ymuno â’r fyddin, roedd Elaine yn fenyw ifanc alluog a hyderus ac roedd yn rheoli’r llyfrgell (â chymorth aelodau’r Sefydliad Brenhinol). Bydd rhan dau’n trafod y cyfnod hwnnw yn ei bywyd.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
Ffynonellau:
- The Museum in Wartime ‘Minerva’ Volume 13, 2005 (trawsgrifiad o recordiad a adolygwyd gan Jennifer Sabine).
- YouTube ‘Dylan Remembered’ 14 Hydref, 2014
- YouTube ‘ Elaine Kidwell: Girl-Guide to air-raid warden – Our Greatest Generation (WW2)’ 26 Mai 2016
- ‘From Air Raid Warden to Land Girl’, cyhoeddiad 4site Dinas a Sir Abertawe
- Nifer o sgyrsiau byr ac anffurfiol gyda mi yn ystod 2019. (Elaine Kidwell (Griffiths gynt) a Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas)
This post is also available in: English