Florence Thomas: Rhan Un
Yn y cyntaf o gyfres o flogiau, mae Katie yn edrych ar fywyd Florence Thomas, mam Nancy a Dylan.
Ganed Florence Hannah Williams ym 1882, yr ieuengaf o saith o blant. Roedd ei rhieni, George ac Anna, yn hanu o Sir Gâr yn wreiddiol ac roeddent wedi symud i Abertawe lle’r oedd George yn gweithio ar y rheilffordd. Magon nhw eu teulu yn Delhi Street, St Thomas; roedd Florence bedair blynedd ar bymtheg yn iau na’i chwaer hynaf, Ann. Mae Ann – a briododd Jim Jones ac a symudodd i fferm Fernhill Sir Gâr – yn hysbys i ni drwy ysgrifennu Dylan gan mai hi oedd testun ‘After the Funeral (In Memory of Ann Jones)’, ac ymddangosodd hefyd yn y stori ‘The Peaches’. Byddai Florence, pan oedd yn blentyn, yn treulio’i gwyliau yn ‘Fern Hill’, fel y byddai ei mab yn ddiweddarach.
Credir bod Florence wedi cwrdd â David John Thomas ym 1903 pan oedd hi’n gweithio fel gwniadwraig mewn siop ddillad leol. Dywedodd Paul Ferris yn Dylan Thomas: The Biography, fod Florence, yn ôl ei fersiwn hi o ddigwyddiadau, wedi cwrdd â DJ mewn ffair yn Johnstown, Sir Gâr, a bod DJ wedi gofyn am gyfarfod â hi y tu allan i’w man gwaith y dydd Llun canlynol. Fe’u priodwyd ar 30 Rhagfyr 1903 yn Eglwys Gynulleidfaol Stryd y Castell yn Abertawe. Credir yn gyffredinol bod eu penderfyniad brysiog i briodol yn ganlyniad i feichiogrwydd Florence.
Yn ôl Ferris, roedd Florence wedi rhoi genedigaeth rhywbryd ym 1904, er, gan fod y plentyn yn farw-anedig neu wedi marw o fewn diwrnodau o’r enedigaeth, does dim cofnod swyddogol o hyn. Roedd y pâr ifanc yn byw yn Sgeti ac roedd DJ yn gweithio fel athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abertawe. Dywedwyd iddynt symud oddi yno oherwydd diffyg prif bibau draenio. Roedd Florence wedi ymgolli yn y canlyniadau iechyd gwael posib ar gyfer plentyn. Erbyn iddi roi genedigaeth i Nancy ym mis Medi 1906, roedden nhw’n byw yng nghanol y dref, yn agos iawn i’r ysgol ramadeg. Gillian Williams oedd y fydwraig a oedd yn bresennol ac roedd hi’n gyfaill da i Florence. Roedd hi’n byw yn St Thomas ac er gwaetha’r ffaith bod y Thomasiaid yn byw mewn dalgylch gwahanol, cynorthwyodd gyda genedigaethau Nancy a Dylan: ‘being it was Florrie, I stretched the point.’
Ar ôl byw mewn llety rhent am nifer o flynyddoedd, prynodd DJ a Florence rif 5 Cwmdonkin Drive, a oedd newydd ei adeiladu, ym mis Chwefror 1914. Amcangyfrifir iddo gostio £500, ac roedd y morgais yn enwau’r ddau ohonynt, a oedd yn anarferol ar y pryd. Er y byddai cyflog DJ wedi bod rhwng £400 a £500 y flwyddyn, roeddent yn aml mewn trafferthion ariannol. Gwnaeth DJ waith ychwanegol yn addysgu Cymraeg yn y nosweithiau i ychwanegu at eu hincwm, er fel llawer ar y pryd, dewison nhw i beidio ag addysgu’r Gymraeg i’w plant. Mae arwydd eu bod yn gwario mwy nag y gallent ei fforddio; yn ôl Ferris, roedd hyn yn rhannol oherwydd hoffter DJ am lyfrau a whisgi, ond cyfrannwyd at hyn gan yr awydd i ‘ddal i fyny â’r fwrgeisiaeth’ a defnydd creadigol Florence o’r arian cadw tŷ. Dywedir y byddai’n talu biliau yn eu tro a byddai’n aml yn cuddio biliau nad oedd wedi’u talu oddi wrth DJ.
Dogfennir yn aml fod Florence yn berson taclus iawn. Cadwyd yr ystafell fyw a’r ystafell wely blaen lan llofft ar gyfer ‘yr achlysuron gorau’ – fel arfer ar gyfer ymwelwyr o Sir Gâr a fyddai’n ymweld â nhw. Roedd y gegin a’r parlwr yn ‘eiddo i’ Florence, lle byddai’n difyrru ffrindiau’n aml, a’r stydi oedd hafan DJ.
Ganed Dylan yn yr ystafell wely blaen ar 27 Hydref 1914. Yn ôl y fydwraig Gillian Williams: ‘roedd e’ tua saith pwys – roedd e’n faban hyfryd’. Roedd, fodd bynnag, rywfaint o gynnen ynghylch enw Dylan, a ddeuai o’r Mabinogi, ac a oedd yn enw anghyffredin ar y pryd. O ystyried mai’r ynganiad Cymraeg cyffredin oedd Dylan, roedd Florence yn poeni, gan ddweud wrth Paul Ferris ym 1955, ‘I didn’t know if we were doing right or if they’d be calling him “dull one” before the end.’ Fel y gwelwn ni yn rhan dau, roedd enw Dylan, a’r ffordd y câi ei ynganu, yn un o nifer o bethau y byddai Florence yn poeni amdanynt o ran lles ei mab.
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English