Nancy Thomas: Rhan 5
Yn ei blog olaf (am nawr) am Nancy Thomas, mae Katie’n darganfod yr hyn a ddigwyddodd iddi ar ôl y rhyfel.
Er i ŵr Nancy, Gordon Summersby, aros yn India ar ôl y rhyfel i weithio i IBM yn y lle cyntaf, dychwelodd Nancy i Loegr. Mae’n anodd gwybod pryd yn union, ond des i ar draws rhestr o deithwyr ar long o’r enw ‘The Strathnaver’ a deithiodd o Bombay i Southampton ar 6 Chwefror 1946. Roedd un Nancy Summersby, galwedigaeth F.A.N.Y (Iwmoniaeth Nyrsio Cymorth Cyntaf) ar y llong. Dydy dyddiad geni’r teithiwr ddim yn cyfateb, ond gallai hyn fod oherwydd bod Nancy’n osgoi ei hoedran? Mae cofnodion y cyfrifiad yn dangos bod Nancy M Summersby yn byw yn ardal Llundain ym 1947.
Yn Dylan Remembered Volume 1, adroddodd Doris Fulleylove hanes hyfryd am Nancy’n cofrestru ar gyrsiau coginio a threfnu blodau rywbryd ar ôl iddi ddychwelyd i Loegr. Gan wneud defnydd da o’i chwrs coginio, aeth ymlaen i baratoi’r brecwast priodas ar gyfer ei gŵr cyntaf, Haydn Taylor, a oedd yn priodi ei ysgrifenyddes.
Yn y cyfamser, roedd y rhieni Thomas wedi symud o Landeilo Ferwallt i dŷ ar rent ym Mlaencwm, Sir Gaerfyrddin ym 1941. Roeddent wedi gwerthu eu tŷ yn Cwmdonkin Drive ym 1943. Yn ystod gaeaf 1947/48, cwympodd Florence a thorri ei choes – bu’n rhaid iddi fynd i’r ysbyty yng Nghaerfyrddin. Roedd Nancy a Gordon yn byw yn Brixham, Dyfnaint, ar y pryd, lle’r oedd Gordon yn rhedeg llong bysgota ac yn gwerthu bwyd y môr i fwytai lleol. (Fel pwynt diddorol wrth fynd heibio, gwraig gyntaf Gordon Summersby oedd Kay Summersby – ar ôl iddi ymuno â’r Gorfforaeth Trafnidiaeth Fecanyddol ar ddechrau’r rhyfel, aeth ymlaen i fod yn yrrwr ac yna’n ysgrifenyddes bersonol i’r Cadfridog Eisenhower.) Teithiodd Nancy i Flaencwm i ofalu am ei thad oherwydd yr oedd ei mam ar fin mynd i’r ysbyty am sawl mis. Ym mis Ionawr neu fis Chwefror, yn fuan ar ôl ei damwain, aeth Dylan i ymweld â hi, a disgrifiodd y sefyllfa i Caitlin mewn llythyr: ‘Here it’s snowbound, dead, dull, damned; there’s hockey-voiced Nancy being jolly over pans and primuses in the kitchen…’ Gan nad oedd Nancy’n gallu aros ym Mlaencwm, penderfynwyd y byddai D J yn mynd i fyw gyda hi a Gordon yn Brixham drwy gyfnod Florence yn yr ysbyty. Cynigiodd Dylan ofalu am eu ci, Mably, gan fod gan Nancy adargi Labrador yn barod, ac ni fyddai digon o le i’r ddau.
Roedd disgwyl i Florence gael ei rhyddhau o’r ysbyty yn y mis Ebrill. Yn dilyn sgwrs ffôn gyda Nancy, teithiodd Dylan i Brixham o gwmpas 22 Ebrill i ymweld â nhw. Penderfynodd – heb ofyn i Caitlin – y dylai ei rieni fyw gyda nhw yn South Leigh. Roedd tŷ Nancy’n rhy fach ar eu cyfer, ac roedd hithau a Gordon yn bwriadu symud yn ôl i India yn fuan gan nad oedd ei fusnes mor llwyddiannus ag y gobeithiwyd. Er i Dylan a Caitlin gynorthwyo Florence a D J yn gorfforol wedi hynny, Nancy a Gordon oedd yn darparu’r cymorth ariannol gyda’r biliau a’r rhent.
Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod Nancy a Gordon wedi aros yn y DU am ychydig yn hirach gan mai eu menter nesaf oedd rhedeg y fferi rhwng tir mawr Lloegr ac Ynys Wair. Er bod y ffynonellau crai, neu ddiffyg ffynonellau, yn tueddu i awgrymu nad oedd Nancy a Dylan yn agos iawn yn ystod eu blynyddoedd hŷn, roedd Malcolm a Ruby’n cofio y byddai Dylan yn anfon, neu’n dweud wrth ei gyhoeddwyr i anfon llyfrau at Nancy pan roedd hi’n byw ar Ynys Wair. Dywedodd Ruby hefyd fod Dylan bob amser yn siarad yn annwyl amdani. Yn Caitlin – Life with Dylan Thomas, mae Caitlin yn sôn am weld ochr wahanol i Nancy pan roedd hi’n byw ar Ynys Wair: a more open-air, tomboyish side, but we never really got through to each other and never shared any confidences.’
Nid yw’n glir pryd y symudodd Nancy a Gordon yn ôl i India, ond digwyddodd hyn ym 1950 o bosib gan fod Dylan wedi awgrymu mewn llythyr at Helen a Bill McAlpine, dyddiedig 12eg Tachwedd 1949, y byddai Nancy a Gordon yn gallu gofalu am Aeronwy yn y Tŷ Cychod pan oedd ef a Caitlin yn America, gan ddangos eu bod yn dal i fyw yn y DU ar yr adeg hynny. Dywedodd Paul Ferris yn Dylan Thomas: The Biography, fod Nancy wedi ymweld ag ef o India yn haf 1952. Roedd hi’n sâl, a chancr oedd y diagnosis. Cafodd lawdriniaeth yn Llundain a dychwelodd i India yn y mis Medi. Bu farw Nancy yn India ar 16 Ebrill 1953, pedwar mis ar ôl ei thad a 7 mis cyn ei brawd.
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English