Dylan Thomas yn Bosham, gorllewin Sussex
Ym 1944, treuliodd Dylan Thomas a’i deulu rai misoedd ym mhentref Bosham yng ngorllewin Sussex. Yn y rhan gyntaf o flog dwy ran, mae Linda Evans o Ganolfan Dylan Thomas yn edrych ar ei amser yno.
Wrth i mi ysgrifennu, mae epidemig y coronafeirws yn dal yn fygythiad mawr ac mae llawer o bobl ar draws y byd yn methu teithio i fannau newydd neu hoff lefydd cyfarwydd. Ac eto i
Dylan Thomas, cyfres o gartrefi a lleoliadau dros dro oedd y norm yn aml, ac fe’u croesawyd o’i wirfodd a chyda diolch.
Wrth feddwl am leoliadau sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas, Abertawe, Llundain, Efrog Newydd a Thalacharn ddaw i’r meddwl fel arfer, ac nid ydym yn tueddu i’w gysylltu ag arfordir de Lloegr a phentref pysgota bach Bosham yng ngorllewin Sussex, er bod nifer o feirdd ac artistiaid wedi’u cysylltu’n hanesyddol â’r pentref gan gynnwys Tennyson, T.S Eliot a Rex Whistler.
Ac eto bu Dylan Thomas yn breswylydd dros dro yma o fis Chwefror i fis Mai 1944. Cyn hyn, roedd y bardd ifanc, ei wraig Caitlin, a’u plant Llewelyn a’r babi Aeronwy yn byw mewn fflat ddirywiedig un ystafell â ffenestr do oedd yn colli dŵr yn Wentworth Studios, Manresa Road yn Chelsea, Llundain, pan oedd Dylan yn ysgrifennu sgriptiau ffilm i Donald Taylor yn Gryphon Films. Yn anffodus ar ôl tair blynedd o heddwch cymharol rhag ymosodiadau awyr, ym mis Ionawr 1944 lansiodd awyrennau’r gelyn ymgyrch fomio dros Lundain o’r enw’r ‘Blitz Bach’.
Roedd ffrind Dylan, y bardd Norman Cameron, yn poeni am les y teulu felly cynigiodd y defnydd o Far End iddynt, bwthyn a ddefnyddiai ei deulu ar benwythnosau ar gyrion Bosham, ar gilfach lanwol harbwr Chichester. Roedd Caitlin yn arbennig o awyddus i dderbyn, gan fod Aeronwy wedi dal niwmonia yn amodau afiach y fflat yn Wentworth Studios, a byddai’r awyr iach a’r amgylchedd gwledig yn fuddiol iddyn nhw i gyd. Ar ddiwedd mis Chwefror, ysgrifennodd Dylan at ei ffrind, y beirniad celf T W ‘Tommy’ Earp, ‘Rydym bellach wedi symud i dŷ yn Bosham – dymunol iawn hefyd, yn edrych dros y dŵr….’ Roedd ef a Caitlin yn gobeithio y byddai Tommy yn ymweld â nhw gan fod Dylan wedi dod i hyd i ‘rai lleoedd dymunol iawn’.
Ysgrifennodd ei ffrind Constantine Fitzgibbon (ei fywgraffydd yn ddiweddarach),
fod Dylan wedi dweud wrtho fod gan dŷ bach allanol cyntefig y bwthyn (neu’r stafell fach bridd) siafft tebyg i ffynnon, lle’r oedd llygod mawr a phiod yn byw! Fodd bynnag, gallai Dylan ddianc o’r man delfrydol hwn ar lan y dŵr gan ei fod yn bwriadu ‘bod yn Llundain ddwywaith neu’n rhagor yr wythnos’ i barhau â’i waith i Donald Taylor, gan gymudo yno o orsaf drenau Bosham, tro byr o’r bwthyn a thaith weddol hwylus i’r ddinas. Yn ystod yr amser hwn, fe’i hanfonwyd hefyd ar ymweliad â Cofentri i ymchwilio i sgript ffilm am ailadeiladu’r ddinas a’i heglwys gadeiriol o’r 14eg ganrif a ddifrodwyd gan ryfel; fel yr ysgrifennodd at Tommy Earp: ‘Anfonodd Donald [Taylor] delegram ata’ i ar frys yn gofyn am fy nghymorth ar ailadeiladu Eglwys Gadeiriol Cofentri’. Bu ei amser yn Far End yn rhyfeddol o gynhyrchiol. Yn ogystal â gweithio ar y darn am Cofentri a’r sgript ffilm ar gyfer y ffilm glodwiw ‘Our Country’, cwblhaodd gerdd mewn tair rhan, a cherdd fer arall a bostiodd at Tommy Earp yng nghanol mis Ebrill. ‘Ceremony After a Fire Raid’, oedd y gerdd hwyaf hon, un o’i gerddi rhyfel enwocaf, a bydd rhan dau o’r blog hwn, a gaiff ei rhyddhau cyn bo hir, yn edrych ar sut yr aeth Dylan ynghlwm yn y paratoadau ar gyfer D-Day.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English