Llwybr Cerdded Dylan Thomas o gwmpas Marina Abertawe
Os ydych chi’n byw ger Marina Abertawe, beth am ychwanegu ychydig o ddiwylliant at eich sesiwn ymarfer corff ddyddiol a mwynhau taith gerdded ar thema Dylan drwy ran o’r Ardal Forol?
Hyd y daith gerdded wastad hon yw tua 1 cilometr, a gall gymryd hyd at 20-25 munud.
Fel arall, gallwch ddilyn y testun a’r lluniau o gysur eich soffa a gadael i eiriau Dylan arwain eich dychymyg.
‘I was born in a large Welsh industrial town at the beginning of the Great War: an ugly, lovely town (or so it was, and is, to me), crawling, sprawling, slummed, unplanned, jerry-villa’d, and smug- suburbed by the side of a long and splendid-curving shore…’ (‘Reminiscences of Childhood’).
Ganed Dylan yn Abertawe, a threuliodd 20 mlynedd gyntaf ei fywyd yn y ddinas. Dychwelodd i Abertawe’n aml yn ystod y blynyddoedd dilynol, a pharhaodd i ysgrifennu am ei dref – ‘beautiful and drab town’ – a’i phobl.
Bydd geiriau Dylan yn eich arwain wrth i chi ddilyn y llwybr byr hwn a darganfod Marina Abertawe drwy ei lygaid ef. Cewch weld rhywfaint o hanes a threftadaeth ddiwydiannol yr ardal yn y fan a’r lle, ac effeithiau parhaol y Blitz ar dref Dylan, tref yr oedd yn ei disgrifio fel ‘marble-town, city of laughter, little Dublin’ (llythyr at Vernon Watkins).
Mae’r daith yn dechrau y tu allan i Ganolfan Dylan Thomas.
Yr adeilad hwn, a adeiladwyd yn y 1820au, oedd Neuadd y Ddinas Abertawe hyd nes bod angen adeilad mwy o faint ar y dref a oedd yn tyfu’n gyflym. Ar ôl agor adeilad newydd Neuadd y Ddinas ym 1934, defnyddiwyd yr adeilad hwn at sawl diben gwahanol, gan gynnwys canolfan gwaith ieuenctid a choleg, cyn mynd yn adfail Adnewyddwyd yr adeilad i gynnal Blwyddyn Llenyddiaeth ac Ysgrifennu’r DU ym 1995, ac agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan Lywydd yr UDA, Jimmy Carter, a oedd yn edmygu gwaith Dylan yn fawr.
Mae gan y Ganolfan arddangosfa barhaol am ddim o waith a bywyd Dylan sef Dwlu ar y Geiriau, a gallwch ymweld â hi ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi. Rydym hefyd yn cynnal rhaglen o weithgareddau cysylltiedig i oedolion, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn gweithredu fel hwb Dylan Thomas rhyngwladol.
Ar draws afon Tawe mae St Thomas, lle ganed mam Dylan, Florence Hannah Williams, ym 1882. Dyma ddisgrifiad Dylan o’i fam, ‘My mother came from the agricultural depths of Carmarthenshire: a prettier woman I have never known’. Merch â’i gwreiddiau yn Sir Gâr oedd Florence ond fe’i ganed yn Abertawe, a phriododd â DJ Thomas ym 1903. A hithau’n fam gariadus ac fel iâr ag uncyw, roedd hi’n maldodi Dylan, gan hyd yn oed dorri pennau ei wyau wedi’u berwi. Roedd yn hynod falch o’r hyn a gyflawnodd ei mab.
Gadewch y Ganolfan a cherddwch ar hyd East Burrows Road. Trowch i’r dde ychydig ar ôl y Clwb Hwylio a cherddwch ar hyd ymyl y Marina a heibio’r gofeb sy’n coffáu gefeillio Abertawe â Mannheim ym 1957.
Ar ochr arall y bont droed ar y chwith gallwch weld cerflun Robert Thomas o gymeriad Captain Cat o’r ddrama Under Milk Wood, y mae ei hanesion a’i atgofion yn treiddio i hanes diwrnod ym mywyd preswylwyr Llareggub:
‘The sleepers are rung out of sleep with his loud get-out-of-bed bell’.
The letters ILYRP adorn his buttons, as in Dylan’s ‘play for voices’ he has ‘I Love You Rosie Probert tattooed on his belly’ for ‘the one love of his sea-life that was sardined with women.’
Dychwelwch at y llwybr a cherddwch heibio tafarn y Pumphouse (tua 1900), a oedd yn gartref i bwmp hydrolig dociau gogledd a de Abertawe, nes i chi gyrraedd Sgwâr Dylan Thomas. Mae cerflun John Doubleday o Dylan Thomas yn edrych tua’r môr, gan ddenu amrywiaeth o ymatebion.
Fe sylwch mor sgleiniog yw coes Dylan oherwydd yr holl bobl sydd wedi eistedd arni i gael llun gyda’r dyn ei hun! Wrth ei draed gallwch weld llinellau olaf cerdd Dylan, ‘Fern Hill’:
‘Oh as I was young and easy in the mercy of his means,
Time held me green and dying
Though I sang in my chains like the sea.’
Ar ymyl Sgwâr Dylan Thomas, ceir murlun lliwgar sy’n nodi Theatr Dylan Thomas.
Mae’r adeilad bellach yn gartref i Gwmni Theatr Fach Abertawe, a leolwyd yn y Mwmbwls yn y 1930au pan oedd Dylan (gyda’i chwaer hŷn, Nancy) yn actio gyda’r cwmni yn ei arddegau hwyr. Yn dilyn nifer o berfformiadau llwyddiannus, cafodd ei daflu allan am yfed gormod yn un o’i hoff dafarnau ychydig cyn perfformio. Roedd Dylan yn mwynhau actio drwy gydol ei fywyd, o berfformio mewn sioeau ysgol i berfformio gyda Junior Players y YMCA, ac yn hwyrach yn ei fywyd bu’n darllen ei farddoniaeth a’i ryddiaith ar y llwyfan ac wrth gwrs yn perfformio yn Under Milk Wood. Ar ôl rhannu un o stiwdios y BBC gyda Dylan, ysgrifennodd Richard Burton: ‘Dylan as an actor and as an explosive performing force was a dangerous rival for other actors’
Cerddwch ar hyd Gloucester Place, gydag Oriel Mission ar eich ochr dde.
Mae gwesty The Queens Hotel ar ddiwedd yr heol, ar y chwith. Roedd y gwesty hwn yn boblogaidd pan roedd Abertawe’n borthladd ffyniannus, ac roedd Dylan yn mynd yno’n aml – byddai Dylan yn dal i adnabod yr adeilad heddiw.
Trowch i’r chwith a rownd y gornel fe welwch Amgueddfa Abertawe. Sefydlwyd yr amgueddfa ym 1835, ac fe’i disgrifiwyd gan Dylan Thomas fel ‘museum which should have been in a museum’. Roedd yn Dylan yn adnabyddus am bendwmpian mewn cadair gysurus yn y tŷ bach yn ystod y prynhawn – efallai ar ôl iddo ymweld â’r Queens!
Trowch i’r dde i Adelaide Street, gan gerdded heibio i hen adeiladau’r Exchange ar y gornel gyntaf. Byddwch yn cerdded heibio i hen gartref The Evening Post – symudodd y post yno ar ôl cyfnod Dylan, ac mae bellach wedi symud i High Street. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, roedd ‘two-typewriter Thomas’ yn ohebydd ieuaf ar gyfer y South Wales Daily Post (yr enw arno pryd hynny). Er iddo gwyno am rai o’r gorchwylion sylfaenol a roddwyd iddo, roedd ei brentisiaeth gyda’r papur wedi’i arwain i ardaloedd yn Abertawe a oedd yn wahanol iawn i faestrefi dosbarth canol ei blentyndod, ac agorwyd ei lygaid i’r anghydraddoldebau o’i gwmpas.
Ar y gornel gallwch weld gwesty Morgan’s Hotel, cyn-swyddfeydd Ymddiriedolaeth Harbwr Abertawe pan roedd Abertawe’n borthladd llwyddiannus. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Harbwr Abertawe drwy ddeddf Seneddol ym 1791 er mwyn ‘ehangu a chadw harbwr tref Abertawe yn Sir Forgannwg’.
Gallwch weld Canolfan Dylan Thomas o’ch blaen, ac rydych wedi cwblhau eich taith Dylan Thomas o gwmpas y Marina. Beth am ddychwelyd adref i ddarllen ychydig o waith Dylan? Gadewch i ni orffen gyda dyfyniad o lythyr a ysgrifennwyd gan Dylan at ei ffrind o Abertawe, Charlie Fisher, am ei hoffter o’i dref enedigol,
‘Swansea is still the best place … I’ll set up … in a neat villa full of drinks and pianos and lawnmowers and dumb-bells’
This post is also available in: English