‘A Soldier Comes Home’
Treuliodd Dylan Thomas lawer o gyfnod yr Ail Ryfel Byd yn ysgrifennu sgriptiau ffilm ar gyfer ffilmiau dogfen byr a ddarlledwyd i hysbysu’r cyhoedd a chodi calonnau. Roedden nhw’n cynnwys ‘A City Re-Born’, sy’n edrych ar ddinistriad Cofentri a chynlluniau ar gyfer ei hailadeiladu ar ôl y rhyfel a ffilmiau ‘Wales – Green Mountain, Black Mountain’ a oedd yn archwilio bywyd yn ystod y rhyfel mewn rhannau amrywiol o’r DU.
Cyflogwyd Dylan fel sgriptiwr gan Strand Films o ddiwedd 1941 ac fe’i talwyd £8 yr wythnos i ddechrau cyn ennill £20 yr wythnos yn y pen draw. Roedd Strand Films dan gontract gyda’r Weinyddiaeth Wybodaeth a chynhyrchodd 75 o ffilmiau ym 1942 yn unig. Gweithiau Dylan fel cyfarwyddwr, cynhyrchydd, casglwr, dyfeisiwr ac adroddwr lleisio yn y sylwebaeth yn ogystal ag ysgrifennu sgriptiau. Dywedodd ei wraig Caitlin nad oedd byth yn gwneud yn fach o’i waith; roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y technegau newydd yr oedd yn eu dysgu, ac roedd yn gobeithio symud ymlaen i ffurfiau eraill o ysgrifennu ffilmiau pan fyddai’r diwydiant ffilmiau’n adfywio ar ôl y rhyfel…. roedd Dylan yn gydwybodol am ei ysgrifennu ar gyfer Donald Taylor ac yn ddiweddarach ar gyfer Sidney Box yn Gainsborough Films.
‘A Soldier Comes Home’ oedd yr olaf yn y gyfres hon, ac mae’r ffilm fer yn archwiliad sensitif o’r ffordd yr oedd yn rhaid i deuluoedd ymaddasu’n seicolegol ar ôl iddynt gael eu gwahanu yn ystod y rhyfel. Caiff y profiadau hyn eu cyfleu gan y cymeriadau Jack a Cath, a’u mab Jim. Mae gan Jack fis o seibiant o’r fyddin, ac mae’n ei chael hi’n anodd peidio â siarad am ei brofiadau yn Burma a’i gydweithwyr yn y fyddin, yn enwedig gan fod ei fab cyffrous yn aml yn gofyn iddo adrodd straeon amdanyn nhw. Mae Cath yn ei chael hi’n anodd: “Allai ddim dy gael di i fi fy hun pan fyddi di adref. Ddim hyd yn oed am ychydig funudau. Rwyt ti wastad yn siarad am dy ffrindiau mas ‘na a’r pethe sy’n digwydd iddyn nhw. Ychydig iawn o amser sydd ‘da ni.’
Mae sgript Dylan hefyd yn amlygu’r dinistr gartref; pan aiff Jack a Jim am dro, meddai Jim ‘Wnes i ddangos i ti lle daeth y bom hedfan na lawr Dad?’ Mae un draw fan’na, a ti’n gwybod y llun hwnnw o tad-cu pan oedd e’n fachgen bach, y llun mawr a’r ffrâm crand â chregyn y môr o’i chwmpas, cwympodd honno ar y llawr pan ddaeth y bom a wnaeth hi ddim torri chwaith.’ Mae ei dad yn ateb ‘O ni’n bell bell i ffwrdd. Doedd dim syniad da ni fod pethau mor wael â hyn.’
Yn nodweddiadol o Dylan, cawn ymdeimlad hyfryd o’i gymeriadau mewn amser byr, wrth iddo newid cyflymdra a naws ei ysgrifennu ac mae’n rhoi rhywfaint o hiwmor mewn sgwrs rhwng Jack a Cath:
Y WRAIG: Oh fe gei di ddigon o dy hen gwrw heno. Bydd mami ‘na, a Jane a Peter.
Y GŴR: Dwi’n edrych ‘mlaen i weld dy fam yn y Railway Arms gyda pheint o gwrw a chetyn clai.
Y WRAIG: Ti’n gw’bod mai dim ond Stout mae hi’n yfed a dyw hi ddim yn smygu chwaith.
Mae’r ffilm yn gorffen gyda rhyw fath o ddatrysiad wrth i Cath dderbyn bod yn rhaid i’w gŵr ddychwelyd i’r fyddin i orffen ei wasanaeth er bod y rhyfel ar ben, ac mae e’n dangos cymaint y mae’n gwerthfawrogi’i gwaith a’i hymdrech gartref.
This post is also available in: English