Chwedl WIR Jac Abertawe!: Gweithdy ysgrifennu creadigol gydag Emily Vanderploeg
Date/Time
17/04/2019
10:30 am - 4:00 pm
10.30am – 12.30pm – Llyfrgell Ganolog Abertawe
2pm – 4pm – Llyfrgell Treforys
Sesiwn allgymorth Sgwad Sgwennu’r Ifanc a gyflwynir gan Ganolfan Dylan Thomas, Cyfuno a Llyfrgelloedd Abertawe.
Efallai eich bod chi wedi clywed hanes ci mwyaf arwrol Abertawe, (a achubodd dros 25 o fywydau!), ond beth am weddill ei weithrediadau dewr a beiddgar? Helpwch ni i ddatgelu gwir hanes mab enwocaf arall Abertawe ac ymunwch â ni am weithdy ysgrifennu am ddim i’r teulu yn ystod gwyliau’r Pasg!
Bydd plant iau’n mwynhau gweithio gyda’u rhieni/gofalwyr wrth greu stribedi comig am yr enwog Jac Abertawe (dewch â’ch sgiliau a’ch syniadau gorau ar gyfer darlunio ac ysgrifennu)… a gall plant hŷn greu eu straeon estynedig eu hunain – mae darlunio’n ddewisol!
Hwyl i deuluoedd â plant o bob oedran.
Mynediad am ddim
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Dylan Thomas ar 01792 463980
This post is also available in: English