A Child’s Christmas in Wales…
Cyn perfformiad Cwmni Theatr Fluellen o A Child’s Christmas in Wales ar 14 Rhagfyr (gwybodaeth am docynnau yma), bydd Charlotte Rogers o Ganolfan Dylan Thomas yn ystyried apêl fyd-eang stori hudol Dylan.
‘Roedd hi’n bwrw eira. Roedd hi wastad yn bwrw eira adeg y Nadolig. Mae Rhagfyr yn wyn fel Lapland yn fy nghof, er nad oedd yno geirw.’
Rydw i’n cael trafferth cofio’r tro diwethaf gwelodd Abertawe eira ym mis Rhagfyr, ond dim ots. Y ffordd hawsaf o ymgolli yn nelweddaeth Hollywood o Nadolig gwyn yw agor tudalennau stori fer freuddwydiol Dylan, Nadolig Plentyn yng Nghymru, a dechrau darllen yn uchel:
‘ni allaf yn fy myw gofio ai bwrw eira am chwe niwrnod a chwe noson y bu hi pan oeddwn i’n ddeuddeg, ynteu bwrw eira am ddeuddeg diwrnod a deuddeg noson pan oeddwn i’n chwech.’
Cafodd ei hysgrifennu’n wreiddiol fel darn ar gyfer radio’r BBC, a chafodd ei recordio ym 1952 ar gyfer y label enwog, Caedmon Records. Y peth sy’n synnu rhywun fwyaf am y darn yw ei apêl fyd-eang. Bydd darllenwyr a gwrandawyr Abertawe yn adnabod ‘ffiniau’r môr canu-carolau’ ym Mae Abertawe, ac yn gwybod bod ‘y goleuadau yn ffenestri’r holl dai eraill ar y bryn’ yn Rhodfa Cwmdoncyn; ond beth mae cynulleidfa ryngwladol yn ei feddwl o’r ‘trapwyr mewn capiau ffwr a mocasins o Fae Hudson, ger Ffordd y Mwmbwls‘? Neu’r gêm blentynnaidd o erlid ‘y Saeson a’r eirth’?
Pan ofynnwyd i’n hymwelwyr yn y ganolfan am eu hatgofion eu hunain o Nadolig Plentyn yng Nghymru, cawsom ein syfrdanu gan nifer yr Americanwyr a’r Canadiaid a oedd yn cofio recordiad Dylan ym 1952. Mae’r recordiad clasurol hwn o lais soniarus Dylan yn dal i gael ei chwarae ar orsafoedd radio ar draws y byd, a’i gludo i gartrefi teuluoedd ym mhob man. A phan nad oedd yn cael ei ddarlledu, cafodd ei chwarae ar chwaraewr recordiau, fel y mae Shawn Mooney, sy’n dwlu ar Dylan Thomas, yn ei gofio:
‘Roedden ni’n aml yn treulio’r Nadolig gyda fy Modryb Mar yng Nghaliffornia, bydden ni’n teithio i lawr o Ganada ar gyfer yr ŵyl. Mae gen i atgof clir ohoni yn rhoi’r record o Dylan Thomas yn darllen A Child’s Christmas in Wales ar y chwaraewr recordiau ar Noswyl Nadolig. Roedd hwn yn ddigwyddiad rheolaidd a oedd yn rhan o’i thraddodiad, a bydden ni’n eistedd o amgylch y radio ac yn gwrando. Rydw i’n dal i gofio cyseinedd ei lais, a hyd yn oed ychydig o’r cymalau.’
Nid yw stori Shawn yn anghyffredin ymhlith ein hymwelwyr rhyngwladol: ‘Mae’n teulu ni wedi bod yn darllen A Child’s Christmas in Wales ers 1969′ ysgrifennodd menyw o Kentucky yn ein llyfr ymwelwyr. ‘Rydw i wedi dwlu ar A Child’s Christmas erioed’ ysgrifennodd ymwelydd arall o Toronto. Efallai y bydd yn peri syndod i feddwl am deuluoedd mewn gwledydd eraill yn gwrando ar hanes bachgen ifanc o Uplands yn taflu peli eira at gathod, ond mae hyn i gyd yn rhan o ddawn Dylan: mae’n gwneud pethau penodol yn bethau rhyngwladol.
Harddwch y darn, a’r rheswm mae ei ryddiaith hudol yn parhau i atseinio ar y tonnau awyr, ar lwyfan ac ar wefusau rhieni ar draws y byd yw’r ffaith ei fod yn apelio at y plentyn ynom i gyd. Mae Nadolig Dylan yn llawn eira, anrhegion a chwarae castiau. Mae ef a’i ffrindiau’n cerdded ar hyd strydoedd gwyn Abertawe yn chwilio am antur oddi wrth yr holl oedolion yn eu bywydau.
‘Dihangai’r nefoedd un-cwmwl allan i’r môr. Roedden ni, nawr, yn deithwyr a ddallwyd gan eira, ar goll ar fryniau’r gogledd, a dôi angenfilod o gŵn gwlyb, a fflasgiau am eu gyddfau, yn lletchwith a blêr tuag atom…’
Yn y weledigaeth eiraog hon o Uplands Abertawe ar Ddydd Nadolig, mae’n cyflwyno dihangfa ddychmygus i’r ŵyl berffaith ar gyfer oedolion a phlant ym mhedwar ban y byd. Dwi ddim yn gwybod amdanoch chi, ond rydw i’n gwybod beth fyddai’n ei ddarllen yn uchel i fy nheulu ar Noswyl Nadolig…
This post is also available in: English