Dylan a Stravinsky: Campwaith a gollwyd?
Wyddech chi cyn iddo farw, cyfarfu Dylan Thomas â’r enwog Igor Stravinsky i drafod cydweithio ar “ddarn o waith theatr gerdd”? Ni ddigwyddodd hyn oherwydd marwolaeth sydyn, cyn pryd Dylan a darfodd ar eu cynlluniau, ond roedd y syniad yn ennyn fy chwilfrydedd. Dechreuais feddwl sut beth fyddai hyn wedi bod a des i’r casgliad y byddai’n un o’r gweithiau gorau i dorri tir newydd yn y byd cerdd fodern.
Efallai ymddengys y Cymro di-hid a’r Rwsiad cwrtais yn bartneriaeth od i ddechrau, ond pan fyddwch yn cymharu Stravinsky â Dylan, mae’n hawdd gweld eu bod yn debycach nag yr ymddengys ar yr arwyneb. Roedd Stravinsky a Dylan o flaen eu hoes ac roeddent yn artistiaid dylanwadol o ran cerddoriaeth fodern ac ysgrifennu yn ôl eu trefn.
Ar yr adeg y byddai’r cydweithio wedi digwydd, roedd Stravinsky’n arbrofi â dulliau techneg deuddeng nodyn, felly byddwn yn dyfalu y byddai wedi bod yn anghytseiniol ac yn eithafol yn gerddorol. Ychwanegwch hynny at ysgrifennu crand Dylan a byddai wedi bod yn hunllef i’r cantorion. Serch hynny, byddai wedi bod yn gampwaith o greadigrwydd a ffurf. Yn aml, mae cerddoriaeth Stravinsky ac ysgrifennu Dylan Thomas yn dilyn strwythurau caeth, strwythurau y gallai athrylith greadigol yn unig gydymffurfio â nhw a chreu rhywbeth mor unigryw.
Yn ôl pob sôn, roedd y stori’n mynd i sôn am “ailddarganfod cariad ac iaith mewn byd ar ôl y bom”. Roedd gan Dylan ddawn am ysgrifennu gweithiau tywyll, felly rwy’n dychmygu y byddai wedi creu disgrifiad hyfryd o dywyll o’r byd ar ôl y bom, ac nid oes amheuaeth y byddai cyfansoddiad Stravinsky wedi creu awyrgylch ôl-apocalyptaidd perffaith. Nid oedd gan yr un o’r ddau artist fywydau carwriaethol delfrydol ond roeddent fel arfer yn portreadu cariad yn eu gwaith fel rhywbeth rhamantaidd. Byddai Dylan, gyda’i ddiddordeb mewn synau geiriau, wedi mwynhau ysgrifennu am ailddarganfod iaith a byddai cyfle wedi bod i’w synnwyr digrifwch ffynnu.
Er y gallwn ddyfalu, ni fyddwn byth yn gwybod yn sicr yr hyn y byddai wedi bod. Rwy’n credu ei bod yn ddiogel dweud, beth bynnag rydym yn ei ddyfalu, roedd y ddau artist hyn mor annarogan byddent wedi gwneud rhywbeth gwbl wahanol.
Caitlin Lewis
Cynorthwy-ydd Blaen Tŷ
This post is also available in: English