Fy hoff gerdd Dylan Thomas
‘The force that through the green fuse drives the flower
Drives my green age; that blasts the roots of trees
Is my destroyer.
And I am dumb to tell the crooked rose
My youth is bent by the same wintry fever.’
Wrth weithio yn arddangosfa Dylan Thomas, wedi fy amgylchynu gan waith y dyn mawr, mae’n hynod galed imi, ymysg y llu o ddewis, dethol fy hoff ddarn o’i waith. Serch hynny, bob amser rwy’n darllen y gerdd soffistigedig a grymus hon, rwy’n synnu mai 19 mlwydd oed yn unig oedd Dylan Thomas pan ysgrifennodd y gerdd. Mae’n llawn delweddau trawiadol, cyffrous ac weithiau lliwgar sydd oll yn gysylltiedig â chylch bywyd, gwanwyn a gaeaf natur a hefyd y corff dynol.
Mae’r gerdd yn ‘siarad’ â mi gan ei bod yn trafod emosiynau dynol. Mae’n ysbrydoledig ac yn drist ac yn bachu fy meddyliau ynglŷn â natur farwol dyn. Wrth gwrs, dim ond un o nifer o gerddi gwych ysgrifennodd y Dylan ifanc mewn cyfres o lyfrau ymarfer coch yw hon. (Enwir y casgliad yn Nodiaduron ac yn 2014 cawsom y fraint i guradu arddangosfa gyda Llyfrgell Farddoniaeth Prifysgol Buffalo ac arddangos nifer ohonynt ar fenthyg fel rhan o’n dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas). Cyhoeddwyd y gerdd ym 1934 yn ei gasgliad barddoniaeth cyntaf, 18 Poems, a hoffwn feddwl bod y rhain wedi helpu sbarduno gyrfa fywiog Dylan, yr holl flynyddoedd yn ôl hynny yn Abertawe.
Linda Evans
Swyddog Blaen y Tŷ
This post is also available in: English