Plant mewn Amgueddfeydd: Diwrnod Meddiannu
Digwyddiad gan “Blant mewn Amgueddfeydd” yw’r Diwrnod Meddiannu i ddathlu cyfraniadau plant a phobl ifanc i amgueddfeydd, orielau, sefydliadau celf, archifau a safleoedd treftadaeth.
Ar y diwrnod hwn, byddant yn derbyn rolau pwysig gan weithio law yn llaw â staff a gwirfoddolwyr a chymryd rhan ym mywyd yr amgueddfa.
Eleni rydym yn croesawu disgyblion o Ysgol Gyfun Treforys i Arddangosfa Dylan Thomas. Bydd y bobl ifanc, aelodau prosiect Eggtooth yr ysgol, yn mynd y tu ôl i’r llenni i ganfod drostynt eu hunain yr hyn y mae ei angen i reoli’r arddangosfa bob dydd.
Byddant yn dysgu am agor y lle a rhoi popeth ymlaen, newid y bwrdd barddoniaeth magnetig a chreu Llwybr Plant newydd ar gyfer yr arddangosfa. Byddant yn gweithio gyda’r tîm yma a fydd yn esbonio eu rolau gan roi i’r bobl ifanc fewnwelediad arbennig i’r ystod o swyddi sydd ar gael.
Helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial
Ymyriad tair blynedd yw’r Prosiect Eggtooth ac mae ar gyfer myfyrwyr â gallu academaidd sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Caiff myfyrwyr eu dewis gan yr ysgol gan eu bod wedi dangos potensial ond mewn perygl o dangyflawni am amrywiaeth o resymau.
Rydym yn falch o weithio gydag Ysgol Gyfun Treforys i roi amrywiaeth o weithgareddau hwyl, cymhellol a heriol i’r bobl ifanc hyn a fydd yn eu helpu i wireddu eu potensial.
Diwrnod i’r Sgwad ‘Sgwennu Ifanc
Bydd ein Sgwad ‘Sgwennu Ifanc, grŵp ysgrifennu creadigol allgyrsiol i Flwyddyn 5 a 6, yn meddiannu’r Arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ yng Nghanolfan Dylan Thomas am y diwrnod. Byddant yn dysgu am sut caiff yr arddangosfa ei rheoli o ddydd i ddydd ac yn ymchwilio ymhellach i fywyd a gwaith Dylan.
This post is also available in: English