‘Ni ddaw unrhyw lyfr i ben…’
Mae eleni yn nodi 100 mlynedd ers genedigaeth Roald Dahl, adroddwr straeon gorau’r byd (yn ein barn ni, o leiaf!).
Mae’n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu straeon poblogaidd i blant megis The BFG a Charlie and the Chocolate Factory on roedd Roald Dahl hefyd yn ysbïwr, yn beilot awyren ymladd, yn hanesydd siocled ac yn ddyfeisiwr meddygol.
Wedi ei eni yng Nghaerdydd o dras Norwyaidd roedd Roald Dahl (1916-1990) yn un o’r adroddwyr straeon mwyaf dyfeisgar, direidus a llwyddiannus erioed. Ar hyn o bryd mae ei straeon ar gael mewn 58 o ieithoedd gwahanol.
Yr haf hwn mae’n bleser gennym ddathlu cyfraniad arbennig Roald Dahl i lenyddiaeth gydag wythnos llawn digwyddiadau a gweithgareddau gogoneddus yng Nghanolfan Dylan Thomas.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Jariau Breuddwydion – Gweithdy galw heibio ar gyfer teuluoedd ifanc i greu jariau breuddwydion i ddal angenfilod ofnadwy!
- Gweithdy Barddoniaeth Meistri Dyfeisio – Gweithdy ysgrifennu creadigol arbennig i blant a phobl ifanc 8-13 oed.
- Crëwr Drygioni, Meistr Arswyd, Dyfeisiwr Anghenfilod’ – Gweithdy ysgrifennu creadigol oedolion yn canolbwyntio ar gymeriadu Roald Dahl; y rhai swrrealaidd a’r rhai erchyll.
Am restr lawn o ddigwyddiadau hudol wedi’u hysbrydoli gan Roald Dahl ewch i www.dylanthomas.com/roald-dahl-100/
This post is also available in: English