Rob Gittins: Bywyd Gwaith Sgriptiwr Ffilmiau – Gweithdy i Oedolion
Date/Time
13/08/2016
1:30 pm - 4:30 pm
Location
Canolfan Dylan Thomas
Ydych chi erioed wedi bod eisiau ysgrifennu sgriptiau teledu neu ffilm, neu ysgrifennu nofel? Treuliwch ychydig o oriau gydag un o awduron drama deledu gorau’r DU i ganfod sut.
Mae Rob Gittins wedi ysgrifennu ar gyfer y rhan fwyaf o gyfresi drama deledu gorau’r DU, gan gynnwys EastEnders, Casualty, The Bill, a Heartbeat.
Bydd Rob yn siarad am ei yrfa – sut y dechreuodd, y sioeau gwahanol mae wedi gweithio arnynt – yn ogystal â’r ffyrdd gwahanol mae’r dramâu hynny’n gweithio. Bydd Rob yn ateb eich cwestiynau penodol – felly dewch yn barod!
Hefyd, bydd arweiniad ymarferol i greu straeon ar gyfer sioeau hirsefydlog.
Tocynnau
- Pris Llawn £7.00
- Consesiynau £4.50
- PTL Abertawe £2.30
This post is also available in: English